Ysgol Dyffryn Nantlle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle
Arwyddair Delfryd dysg, cymeriad
Sefydlwyd 1898
Math Uwchradd
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad Ffordd y Brenin, Pen-y-groes, Gwynedd, Cymru, LL54 6AA
AALl Cyngor Gwynedd
Disgyblion 558
Rhyw Merched a bechgyn
Oedrannau 11–18

Ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhen-y-groes, Gwynedd, ydy Ysgol Dyffryn Nantlle. Sefydlwyd yr ysgol ym 1898 fel Ysgol Ramadeg Penygroes ar y safle lle saif ysgol gynradd y pentref, sef Ysgol Bro Lleu heddiw.

Arwyddair yr ysgol ydy Delfryd dysg, cymeriad.

Roedd 558 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006.[1] Gall 91% o'r disgyblion siarad Cymraeg i lefel iaith gyntaf, er mai 78% sy'n dod o gartrefi lle'r Cymraeg yw'r brif iaith.[2]

Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Dyffryn Nantlle ydy un o'r Eisteddfodau Ysgol hynaf yng Nghymru, a gynhelir ar ddiwedd mis Hydref. Yn Rhagfyr 2008, fe wnaeth yr ysgol gymryd rhan mewn cyngerdd ynghyd â Bryn Terfel yn Galeri, Caernarfon; gan ganu chwe chân newydd â gomisiynwyd gan Robat Arwyn - yn dwyn y teitl: 'Yn d'Olau di'.

Cyn-ddisgyblion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymysg ei chyn-ddisgyblion o nod mae:

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2007-10-24.
  2. Adroddiad Estyn 2004
Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.