Rhiannon Wyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhiannon Wyn
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Sgriptiwr Edit this on Wikidata

Awdures a sgriptwraig Cymreig yw Rhiannon Wyn (ganwyd 19 Mawrth 1979).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Wyn ym Mangor, Gwynedd, yn ferch i'r nofelydd Eirug Wyn, Magwyd yn Groeslon, ger Caernarfon a mynychodd Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes. Graddiodd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth o Goleg Prifysgol Aberystwyth, cyn teithio o gwmpas y byd am flwyddyn. Mae’n gweithio fel sgriptwraig ar Rownd a Rownd a Pobol y Cwm.[1]

Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 yng ngategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd gyda'i nofel Codi Bwganod, ac unwaith eto yn 2012 gyda Yr Alarch Du.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Codi Bwganod (Cyfres yr Onnen), Ionawr 2009 (Y Lolfa)
  • Yr Alarch Du, Tachwedd 2011 (Y Lolfa)

Gwobrau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2010 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd – Codi Bwganod
  • 2012 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd – Yr Alarch Du

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Nofelwyr Ifanc yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2010. Cyngor Llyfrau Cymru (3 Mehefin 2010). Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  2.  Gwobrau Tir na n-Og. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]