Rownd a Rownd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Set ffilm ar gyfer Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy.

Opera sebon ar S4C yw Rownd a Rownd, sy'n cael ei gyfeirio tuag at bobl ifanc.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlledwyd y bennod gyntaf ym mis Medi 1995 a chafodd ei chynhyrchu gan Ffilmiau'r Nant, ond nawr fe'i gynhyrchir gan gwmni Rondo.[1] Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Cafodd ei ddarlledu'n wreiddiol fel dwy bennod chwarter awr pob wythnos drwy'r flwyddyn. Darlledwyd 1,000fed bennod y gyfres ar nos Fawrth 14 Ionawr 2014.[2] Yn 2016 dathlodd y gyfres ei 21ain benblwydd.

Seren hiraf y gyfres oedd Dewi 'Pws' Morris a chwaraeodd rhan Islwyn Morgan, perchenog y siop bapur ers dechrau'r gyfres ym 1995; gadawodd y gyfres yn 2007.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Rownd a Rownd yn wreiddiol yn seiliedig ar bobl ifanc a oedd yn gwneud rownd bapur; mae'r teitl y cyfres yn cyfeirio hefyd at gylchdro olwynion beic. Ers hynny mae wedi tyfu i gynnwys eu bywyd dydd i ddydd mewn ysgol a theulu.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rownd a Rownd ar wefan Rondo
  2. 1000! Erthygl ar wefan Rownd a Rownd/S4C
Blank television set.svg Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato