Robat Arwyn

Oddi ar Wicipedia
Robat Arwyn
GanwydRobert Arwyn Jones Edit this on Wikidata
Tachwedd 1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://robatarwyn.co.uk/ Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, Gwynedd, ond sy'n byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych ers 1981 yw Robert Arwyn Jones (ganwyd Tachwedd 1959) a adnabyddir ers 1982 fel Robat Arwyn.

Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Symudodd o'r coleg i Ddinbych lle bu'n gweithio fel llyfrgellydd. Oddi yno symudodd i Ruthun gan weithio yn yr Hen Garchar, ger yr archifdy.

Gyda'r prifardd Robin Llwyd ab Owain cyfansoddodd y gerddoriaeth i ganeuon megis: 'Gwin Beaujolais', 'Pedair Oed' a 'Brenin y Sêr'. Bu Robat Arwyn hefyd yn flaenllaw iawn gyda'r grwp gwerin Trisgell yn y 1980au a Chôr Ieuenctid Rhuthun (yna 'Côr Rhuthun) yn ddiweddarach, gan ddod yn arweinydd arnynt wedi marwolaeth Morfydd Vaughan-Evans yn Ionawr 2008. Mae ganddo ddau o blant.[1] Cyfansoddodd yr alaw i rai o'r caneuon mewn dramâu cerdd fel Ceidwad y Gannwyll (1985), Iarlles y Ffynnon (1992-3) a Pwy bia'r Gân? (2003).

Yn 2009 rhyddhawyd CD gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon ar label Sony. Roedd y caneuon yn cynnwys Benedictus gan Robat Arwyn.

Trisgell[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o'r grwp Trisgell yn y 1980au cynnar. Dyma ddetholiad o ganeuon a recordiwyd ganddyn nhw:

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
Fel Un 2012 Sain SCD 2669
Gwin Beaujolais 2012 Sain SCD 2669
Llanelidan 2012 Sain SCD 2669

Sioeau cerdd[golygu | golygu cod]

Cyfansoddodd Robat Arwyn y gerddoriaeth i rai o'r caneuon yn y sioeau canlynol:

  • Ceidwad y Gannwyll (1985). Comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl.
  • Rhys a Meinir (1987). Perfformiwyd gan Gwmni Theatr ardal Rhuthun yn 1987.
  • Iarlles y Ffynnon (1996). Comisiwn gan Gyngor Sir Gwynedd. Perfformiwyd gan ddisgyblion Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, Chwefror 1996.
  • Pwy bia'r Gân? (2003). Comisiynwyd gan Adran y Gymraeg, Cyngor Sir Ddinbych a'i pherfformio gan blant Blynyddoedd 5 a 6 ysgolion dalgylch Rhuthun yn Hydref 2003.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Mae'r cyfansoddwr wedi cyhoeddi oddeutu deg o gasgliadau o ganeuon, gan gynnwys Atgof o'r Sêr (Curiad), Er Hwylio'r Haul (Curiad), Er Mwyn Yfory (Y Lolfa) a Gwin Beaujolais (Y Lolfa). [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.