Aled Jones Williams
| Aled Jones Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 1956 Llanwnda |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, offeiriad Anglicanaidd |
Llenor a dramodydd o Gymru yw Aled Jones Williams (ganed ym 1956).[1]
Enillodd y Brif Wobr Drama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r Cyffiniau 1994, am ei ddrama Y Dyn Ll'nau Bogs, ac yn 2002, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 gydag Awelon.[2] Cafodd ei lyfr Ychydig Is Na’r Angylion ei enwebu ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Achoswyd cryn ymryson gan ei ddrama Iesu! yn 2008, gan iddo bortreadu Iesu fel merch.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Aled Jones Williams yn Llanwnda ger Caernarfon, yn unig blentyn i ficer y plwyf a'i wraig, R. E. a Megan Williams. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynychu Prifysgol Bangor a graddio ym 1977. Aeth ymlaen i Goleg Diwinyddol Mihangel, Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Fe ordeinwyd i'r Eglwys yng Nghymru ym 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth. Wedi cyfnod yn dioddef o alcoholiaeth gadawodd yr eglwys, daeth yn aelod o gymuned L'Arche yn Lerpwl gan rannu ei fywyd â rhai oedd ag anabledd meddwl. Yn ystod ei gyfnod yno y priododd â Susan. Dychwelodd i Gymru yn 1995 i wasanaethu fel offeiriad ym Mhorthmadog. Mae ganddyn nhw dri o blant: Marc, Bethan a Gwydion.[2] Mae'n byw yng Nghricieth erbyn hyn.[3]
Dramâu
[golygu | golygu cod]Darlledwyd nifer o'i ddramâu ar BBC Radio Cymru gan gynnwys
- Chwara Adra (2009)
- Y Ferch yn y Peiriant (2011)
- O Ben y Bont (2012)
- Efa ac Adda (2012)
- Sonata (2013)
- Y Cymro Olaf (2015)
Mae ei ddramâu llwyfan yn cynnwys:
- Y Dyn Ll'nau Bogs (1995)
- Cnawd (1997)
- Pêl Goch (1998)
- Wal (1999)
- Tiwlips (1999)
- Ta-Ra Teresa (2002)
- Be' O'dd Enw Ci Tintin? (Tach 2003)
- Lysh (Gorff 2004)
- Iesu! (Gorff 2008)
- Merched Eira (2010)
- Chwilys (Awst 2010)
- Pridd (Tach 2013)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- 'Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun' (Gwasg Pantycelyn, 2001)
- Be' O'dd Enw Ci Tintin? (Theatr Bara Caws, 2003)
- Eneidiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
- Iesu! (Gwasg Gomer, 2008)
- Lysh (Theatr Bara Caws, 2004)
- Disgwl Bys yn Stafell Mam: Chwech o Ddramau (Maw 2006)
- Merched Eira a Chwilys (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
- Oerfel Gaeaf Duw (Gwasg Pantycelyn, 2002)
- Tuchan o Flaen Duw (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
- Wal (Gw. Disgrifiad, 2000)
- Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn, 2010)
- Ychydig Is Na'r Angylion (Gwasg y Bwthyn, 2006)
- Yn Hon Bu Afon Unwaith (Gwasg y Bwthyn, 2008)
- Duw yw'r Broblem, gyda Cynog Dafis (Gwasg Carreg Gwalch, 2016)
- Raffl (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tuchan o flaen Duw. Hunangofiant Aled Jones Williams, Gwasg Carreg Gwalch (2012)
- ↑ 2.0 2.1 Offeiriad yn cipio'r Goron. BBC (2002-08-05).
- ↑ Bywgraffiad Aled Jones Williams. Gwasg Gomer.