Neidio i'r cynnwys

Lysh

Oddi ar Wicipedia
Lysh
Dyddiad cynharaf2004
AwdurAled Jones Williams
CyhoeddwrTheatr Bara Caws
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9780954039844
Dyddiad y perff. 1afAwst 2004
Dynodwyr

Drama gomisiwn am bedwar cymeriad mewn clinig trin alcoholiaid gan Aled Jones Williams yw Lysh.[1] Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Awst 2004 gan Theatr Bara Caws. Cyfarwyddwyd gan Valmai Jones a’r actorion oedd Maldwyn John, Phil Reid, Rhodri Meilir a Betsan Llwyd. Cyhoeddodd Theatr Bara Caws y ddrama yn 2004, a'i hail-gyhoeddi yn 2009.[2] "Lysh, heb os ac am resymau pur amlwg, yw'r mwyaf personol o fy holl weithiau" nododd y dramodydd yn 2012.[3]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Jona Fodca - "40au hwyr. Crys-T du a 'Guess?' wedi ei brintio arno. Jeans. Trainers"
  • Ifor - "40au hwyr. Siwt a thei. Golwg dyn yn dechrau mynd yn flêr arno. Ddim wedi siafio ers diwrnod neu ddau. Ambell i sdaen ar ei ddillad. Ond dim byd rhy ofnadwy".
  • Sandra - "40au. Therapydd (ac yn y ddrama rôl Corws). Wedi ei gwisgo'n smart."
  • Santa Clôs - "40au. Wedi ei wisgo drwy'r adeg mewn siwt Santa Clôs. Hen siwt wedi gweld Nadoligau gwell".

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mewn nodyn ar gychwyn y fersiwn gyhoeddedig o'r sgript, fe noda'r dramodydd o dan y pennawd "Lleoliad" : "Mae'r ddrama'n digwydd tu mewn i bob un o'r cymeriadau - felly mae'r lleoliadau yn amrywio. Ond y prif leoliad ydy clinic rehab. O ran amser mae o'n gwibio o'r presennol i'r gorffennol yn ôl mympwy'r cymeriadau".[4]

Fel gyda'i ddrama gynharach, Pêl Goch mae llanast cyffredinol ar y llwyfan a'r llawr yn llawn o eitemau o fywyd bob dydd, yn yr achos yma "teganau plant (tedi bêrs, dolis, gynnau plastig ag ati) a photeli alcohol gweigion".[4] Ar gychwyn y ddrama, mae'r Therapydd Sandra "ar gefn y ceffyl pren" tra bod y tri cymeriad arall yn eistedd ar "gadeiriau aliwminiym sy'n troi rownd".[4]

Tra bod y cymeriadau gwrywaidd o gleifion yn ail-fyw eu hunllefau gydag alcohol o'r gorffennol a'r presennol, mae Sandra yn rhoi inni'r ffeithiau, fel y Corws mewn drama 'Roegaidd. "Afiechyd y teimladau ydy alcoholiaeth yn y bôn. Mewn geiriau eraill ni fedr yr alcoholic fyw hefo'i deimladau. Ei theimladau negyddol. Megis - dicter, euogrwydd, cywilydd".[4] Wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen, dysgwn mai amgylchiadau bywyd o'r gorffennol a phersonoliaeth y cymeriadau sydd wedi arwain at y cyflwr hwn ym mhob un ohonyn nhw.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Cais am ddrama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 oedd y man cychwyn. Roedd Aled eisioes wedi ennill y Brif Wobr Drama yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau 1994, am ei ddrama Y Dyn Ll'nau Bogs, a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gydag Awelon. Roedd o hefyd wedi cyfansoddi sawl drama ddadleuol fel Cnawd (1997), Pêl Goch (1998), Wal (1999), Tiwlips (1999), Ta-Ra Teresa (2002) a Be' O'dd Enw Ci Tintin? (Tach 2003), gyda llawer ohonynt wedi cipio gwobrau am y ddrama fer, yn yr Eisteddfodau Genedlaethol, yn ogystal. Dyma'r drydedd ddrama iddo gyfansoddi ar gyfer Theatr Bara Caws.[4]

Yn ei gyfrol Tuchan o Flaen Duw ["dwy bennod o hunangofiant"] (Carreg Gwalch 2012) mae'n sôn yn benodol am y ddrama hon, gan nodi mai "hon fyddai 'drama gomisiwn' olaf yr Eisteddfod" [Genedlaethol].[3] Nododd hefyd ei fod wedi cyfansoddi "pytiau" o'r ddrama tra yr oedd yn glaf am "dri mis" mewn clinig adferiad Castle Craig, yn yr Alban. Cafodd ei ryddhau o'r clinig ar y 6 Ionawr 2004, gan "aros am fis gyda ffrindiau yn Lerpwl" cyn dychwelyd adref at ei deulu ym Mhorthmadog.[3]

"Yn Lerpwl y daeth Lysh i fod. Drama unllais ydyw - 'monodrama' - ac er bod pedwar 'cymeriad' ynddi, un sydd mewn gwirionedd. Pwrpas ei hysgrifennu, ar wahân i wireddu'r comisiwn, oedd medru dweud, wrthyf fi fy hun yn bennaf: dwi'n ôl! [...] Nid 'catharsis' oedd yr ysgrifennu ond rheidrwydd".[3]

Cyfaddefodd hefyd yn ei gyfrol hunangofiannol, nad oedd o'n credu "ei bod yn ddrama arbennig o dda" gan ychwanegu, "...ond petai yn mynd at hynny nid wyf yn meddwl fod unrhyw un o'm gweithiau yn arbennig o dda - wele! yr alcoholig yn siarad".[3] Teimlodd "yn glòs iawn" at Lysh, gan ei chyflwyno i "ddau o'm cyd-gleifion, Wilma annwyl a Hammy wyllt", ac i ddau o'r therapyddion, "Craig Logan a Murray Allen".[3]


Ar flaen cyhoeddiad Theatr Bara Caws o'r ddrama yn 2004, y geiriad ydi "Cyflwynaf Lysh i Craig, Murray, Brian ac Eddy - therapyddion ac i Wilma a Hammy - cyd-gleifion". [4]

Cynychiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004. Cyfarwyddydd Valmai Jones; gwisgoedd Janice Jones; criw technegol Gwion Llwyd, Berwyn Morris-Jones, Emyr Morris-Jones a Mandy Parry.

"Yn ôl y disgwyl, mae hon yn ddrama drom ac yn un farddonol iawn ar brydiau", dywed Elin Wyn mewn adolygiad o'r cynhyrchiad; "Mae'n ddrama sy'n gofyn am ganolbwyntio yn hytrach nag eistedd yn ôl i'w mwynhau hi. Mae'n codi cwestiynau. Teimlais yn reit annifyr yn gadael y theatr - lle roedd torf digon parchus wedi troi allan i berfformiad cyntaf y ddrama yn Theatr y Dolman, Casnewydd," ychwanegodd.[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams Archifwyd 2022-09-15 yn y Peiriant Wayback – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Williams, Aled Jones (2012). Tuchan o Flaen Duw. Carreg Gwalch.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 Williams, Aled Jones (2004). Lysh. Theatr Bara Caws. ISBN 095403984X.
  5. "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-10-14.