Neidio i'r cynnwys

Pridd (drama)

Oddi ar Wicipedia
Pridd
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
AwdurAled Jones Williams
CyhoeddwrTheatr Genedlaethol Cymru Gwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi2013
Pwncdrama
ISBN978 1 84527 471 9
GenreDramâu Cymraeg

Drama Gymraeg gan Aled Jones Williams ydy Pridd.[1]. Llwyfannwyd yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Monolog gan y cymeriad Alwyn Tomos, neu 'Handi Al' i blant y fro, sydd yma, wrth iddo orfod wynebu ffeithiau trasig ei fywyd, ymhell o gomedi ei ddiddanu.

‘Handi Al’, y clown a’r diddanwr plant, ‘ffwli CRB checked’. Methiant a meddwyn, ond un na allwch chi mo’i gasáu, er gwaetha’r geiriau garw a’i chwantau cnawdol.

"Er bod Pridd yn barhad themataidd o'r hyn sydd wedi bod yn greiddiol i theatr Aled trwy gydol ei yrfa, mae yma hefyd ddatblygiad arddulliadol arwyddocaol", yn ôl yr adolygydd Gareth Llyr Evans.[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Handi Al - clown

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

2010au

[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013 gydag Owen Arwyn yn portreadu'r prif gymeriad dan gyfarwyddwyd Sara Lloyd.[3] Cynllunydd y cynhyrchiad oedd Ruth Hall; goleuo Elanor Higgins; sain Dyfan Jones.[2] Fe enillodd Owen wobr Perfformiad Orau yn yr iaith Gymraeg yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014.[4]

Yn ôl yr adolygydd theatr Paul Griffiths, roedd "...portread Owen Arwyn mor drydanol â’r ‘lectrig o sws’ gyntaf, a gafodd gan ei wraig ddolefus, Gwenda.  Portread ddaeth â dagrau wrth gerdded nôl am ganol Caerdydd – nid dagrau o dristwch, ond dagrau am ddiwedd rhywbeth – fel diwedd gyrfa Robert Deiniol yn Panto, Gwenlyn Parry, neu ddiwedd cyfnod Leni, yn nrama Dewi Wyn Williams, roedd yma ymdeimlad terfynol iawn i’r gwaith."[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Pridd ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru
  2. 2.0 2.1 Rhaglen Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Pridd. 2013.
  3. Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams] – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
  4. Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru'n mynd 'o nerth i nerth' BBC Cymru 27.1.14
  5. "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-27.
Eginyn erthygl sydd uchod am y theatr yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.