Alcoholiaeth
Enghraifft o'r canlynol | symptom neu arwydd |
---|---|
Math | camddefnyddio alcohol, syndrom dibyniaeth, anhwylder defnydd sylwedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y cyflwr meddygol o fod yn gaeth neu gwbl ddibynnol ar alcohol yw alcoholiaeth. Fe'i nodweddir gan ddefnydd direolaeth neu orfodaeth obsesiynol i yfed alcohol er gwaethaf yr effeithiau negyddol ar iechyd, perthynas a safle cymdeithasol yr yfwr. Fel gyda chaethiwed i gyffuriau eraill, diffinnir alcoholiaeth fel clefyd y gellir ei drin.[1] Gelwir rhywun sydd yn y fath gyflwr yn alcoholydd neu alcoholig. Crëwyd y term hwn gan Magnus Huss ym 1849 ond yn ystod y 1980au dechreuwyd defnyddio'r termau "camddefnyddio alcohol" a "dibyniaeth ar alcohol". Weithiau defnyddir y term dibyniaeth ar alcohol i fod yn gyfystyr ag alcoholiaeth.[2][3])
Cymry a oedd yn ddibynnol ar alcohol
[golygu | golygu cod]Mae sawl bardd a llenor yn adnabyddus am eu halcoholiaeth, yn cynnwys y llenorion Cymreig Evan Evans (Ieuan Fardd), Goronwy Owen a Dylan Thomas.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ DEFINITIONS.
- ↑ MedlinePlus (15 Ionawr 2009). Alcoholism. National Institute of Health.
- ↑ Department of Health and Human Services. Alcohol Dependence (Alcoholism) (PDF). National Institutes of Health.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cyngor ar ymatal rhag camddefnyddio alcohol ar NHSDirect Cymru Archifwyd 2008-11-12 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Alcoholyddion Anhysbys Archifwyd 2008-01-13 yn y Peiriant Wayback