Goronwy Owen

Oddi ar Wicipedia
Goronwy Owen
Ganwyd1 Ionawr 1723 Edit this on Wikidata
Llanfair Mathafarn Eithaf Edit this on Wikidata
Bu farwGorffennaf 1769 Edit this on Wikidata
Brunswick County Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg William & Mary Edit this on Wikidata
Llyfr am Goronwy Owen

Roedd Goronwy Owen (1 Ionawr 1723 - Gorffennaf 1769) yn un o feirdd Cymraeg amlyca'r 18g.

Ei fywyd[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni ar Ddydd Calan 1723 ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yng ngogledd-ddwyrain Môn. Cafodd ei addysg ffurfiol yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Yr Iesu, Rhydychen er na arhosodd yn y coleg yn hir. Dysgodd lawer am farddoniaeth gan Lewis Morris. Yn Ionawr 1746 fe'i ordeiniwyd yn weinidog. Yn ddyn ifanc gadawodd Ynys Môn am y tro olaf, a chrwydro i Sir Ddinbych, Croesoswallt, Donnington ac Uppington ger Amwythig, Walton ger Lerpwl, a Northol yn Llundain. Ym mis Tachwedd 1757, hwyliodd gyda'i deulu ifanc i gymryd swydd yng Ngholeg William a Mary yn Brunswick County, Virginia, Unol Daleithiau America. . Bu farw yno ym mis Gorffennaf 1769 heb ddychwelyd yn ôl i Gymru unwaith.

Caethwasiaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n berchen ar o leiaf pedwar o gaethwaesion[1] ac mae ei ewyllys yn eu rhestru ymysg ei eiddo: ‘A negro named Peg Old (£12/10s); A negro wench named Young Peg (£40); A [negro] boy, Bob (£30); A [negro] boy, Stephen (£15); A Desk Black Walnut (£3/10s); Six Walnut chairs (£3/10s)...’[2]

Enwir Ysgol Goronwy Owen a Chlwb Pêl-Droed Bro Goronwy ar ei ôl.

Ei waith[golygu | golygu cod]

Roedd yn fardd, yn fwyaf enwog am ei gerddi am Ynys Môn, er ei fod wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed.

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.
Goludog, ac ail Eden
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffter Duw Nêr a dyn wyd,
Marian wyd ym mysg moroedd,
A'r dŵr yn gan tŵr it oedd,
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni weli ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a mesitres môr.
I'th irhau cyfoeth y rhod
A 'mryson â'r môr isod.
Gwyrth y rhos trwodd y traidd,
Ynysig unbenesaidd.

Mae tystiolaeth ei lythyrau niferus at aelodau o gylch y Morrisiaid yn dangos ei fod yn ysgrifennwr rhyddiaith campus yn ogystal. Dyma ei ddisgrifiad o berson Walton, er enghraifft:

Climmach o ddyn afrosgo ydyw - garan anfaintunaidd - afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyllach, a'i ddrem arwguch yn tolcio (ymhen pob chwedl) yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygon; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên... Roedd yn swil genyf ddoe wrth fynd i'r Eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bâd ar ol llong.[3]

Ymhlith y cwpledi sy'n dal i gael eu hadrodd heddiw mae:

Pwy a rif dywod llifon,
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?

a'r cwpled yn yr englyn canlynol:

Mae cystudd rhy brudd i’m bron – hyd f’wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth, lon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwaith y bardd[golygu | golygu cod]

  • Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759). Tair cerdd.
  • Diddanwch Teuluaidd (1763; arg. newydd, 1817). Bron y cwbl o'i gerddi.
  • Corph y Gainc (1810). Pump cerdd na cheir yn y Diddanwch.
  • John Jones (gol.), Gronoviana (John Jones, Llanrwst, 1860). Y cerddi i gyd a sawl llythyr.
  • Parch. Robert Jones (gol.), Poetical Works of Goronwy Owen (1876). 2 gyfrol.
  • Isaac Foulkes (gol.), Holl Waith Barddonol Goronwy Owen (Lerpwl, 1878).
  • ——, Gwaith Goronwy Owen (Cyfres y Fil, Bala, 1902).
  • W. J. Gruffydd (gol.), Cywyddau Goronwy Owen (1907).
  • J. H. Davies (gol.), The Letters of Goronwy Owen (Caerdydd, 1924).

Bywgraffiad ac astudiaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC - Cymru - Hanes - Themau - Cofio Goronwy Owen". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-06-23.
  2. "Caethwasanaeth a'r Beirdd".
  3. The Letters of Goronwy Owen, XX. At William Morris o Walton, 30 Ebrill, 1753. Dyfynnwyd gan Alan Llwyd yn Goronwy Ddiafael, Goronwy Ddu

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]