John Humphreys Davies
John Humphreys Davies | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1871 Llangeitho |
Bu farw | 10 Awst 1926 |
Man preswyl | Cwrt Mawr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llyfryddiaethwr, person dysgedig, bargyfreithiwr |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Tad | Robert Joseph Davies |
Mam | Frances Davies |
Ysgolhaig a chasglwr llyfrau a llawysgrifau oedd John Humphreys Davies (15 Ebrill 1871 – 10 Awst 1926). Cysylltir ei enw â chasgliad Llawysgrifau Cwrtmawr. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhodd gan J. H. Davies.
Ganed J. H. Davies yn y Cwrt Mawr ger Llangeitho, Ceredigion yn 1871. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Lincoln, Rhydychen. Fe'i penodwyd yn Gofrestrydd y coleg yn Aberystwyth yn 1905 a daeth yn brifathro yno yn 1919.
Roedd ei gyfeillion yn cynnwys Owen M. Edwards a T. E. Ellis.
Fel ysgolhaig gyda diddordeb eang yn llenyddiaeth a hanes Cymru, ymddiddorai yn llenyddiaeth a hanes y 18g, ac yn enwedig yng ngwaith Morrisiaid Môn a Goronwy Owen a chyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys golygiadau o gasgliadau o lythyrau'r Morrisiaid a Goronwy Owen.
Casglodd lyfrgell arbennig o lyfrau a llawysgrifau Cymraeg a Chymreig yn ei gartref yn y Cwrt Mawr. Mae'r casgliad, a adwaenir fel Llawysgrifau Cwrtmawr, yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y 18g. Testunau llenyddiaeth Gymraeg yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd. Cafodd ei gyflwyno gan J. H. Davies yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith J. H. Davies
[golygu | golygu cod]- Rhai o Hen Ddewiniaid Cymru (1901)
- A Bibliography of Welsh Ballads (1909-11)
- (gol.), The Morris Letters (2 gyfrol, 1907, 1909)
- (gol.), The Letters of Goronwy Owen (1924)
Cofiant
[golygu | golygu cod]Ceir cofiant iddo gan T. I. Ellis (1963)