Llawysgrifau Cwrtmawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cwrt Mawr, Llangeitho NLW3363417.jpg
Cwrtmawr
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol casgliad o lawysgrifau Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1543 Edit this on Wikidata
Genre Llenyddiaeth Gymraeg Edit this on Wikidata
Lleoliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Perchennog John Humphreys Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Casgliad sylweddol o lawysgrifau Cymraeg gwerthfawr a gasglwyd gan John Humphreys Davies o Gwrtmawr, ger Llangeitho, Ceredigion yw Llawysgrifau Cwrtmawr. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhodd gan Davies eu hun.

Mae'r casgliad yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y 18g. Testunau llenyddiaeth Gymraeg yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd. Trosglwyddwyd rhan gyntaf llawysgrifau Cwrtmawr i'r Llyfrgell Genedlaethol ym 1925 (llawysgrifau 1-50), a throsglwyddwyd y gweddill (llawysgrifau 51-1492) ar ôl marw J H Davies ym 1926.

Mae'r casgliad yn cynnwys llawysgrifau:

John Jones (‘Myrddin Fardd’; 1836-1921)
Peter Bailey Williams (1723-96)
William John Roberts(‘Gwilym Cowlyd’; 1828-1904)
Daniel Silvan Evans (1818-1903)
teulu Richards, Darowen

Plasty hynafol ger Llangeitho yw Cwrtmawr (hefyd Cwrt Mawr, Cwrt-mawr). Ceir atgofion T. I. Ellis amdano yn chwarter cyntaf yr 20g, pan fu'n gartref i J. H. Davies, yn y gyfrol Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1952), tt. 61-2.
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.