Lewis Morris

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lewis Morris
Lewis Morris 1701-1765.JPG
Ganwyd 2 Mawrth 1701 (in Julian calendarEdit this on Wikidata
Llanfihangel Tre'r Beirdd Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Ebrill 1765 Edit this on Wikidata (64 oed)
Penbryn, Unknown Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth mapiwr, hynafiaethydd, syrfewr tir, Bardd, rhwymwr llyfrau, argraffydd Edit this on Wikidata
Tad Morris ap Rhisiart Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Lewis Morris (gwahaniaethu)

Llenor a hynafiaethydd o Ynys Môn a chwareodd ran flaenllaw yn nadeni llenyddol y ddeunawfed ganrif oedd Lewis Morris (2 Mawrth 170111 Ebrill 1765). Ei enw barddol oedd Llywelyn Ddu o Fôn. Roedd Lewis yr hynaf o bedwar brawd. Gyda'i frodyr dawnus Richard a William a beirdd a hynafiaethwyr eraill fel Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Huw Huws, roedd Lewis yn ffigwr canolog yn y mudiad llenyddol y cyfeirir ati fel Cylch y Morrisiaid.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Lewis Morris yn y Tyddyn Melys, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd a'i fagu ar fferm Pentre-eiriannell, ger Penrhosllugwy, Môn. Roedd ei dad Richard Morys yn gowper a saer ac yn hanfod o deulu Bulkeley, ond doedd y teulu ddim yn gefnog a phur caled oedd blynyddoedd cynnar Lewis. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond llwyddodd i ddysgu crefft syrfeio. Yn 1729 roedd yn swyddog dollfa yng Nghaergybi yn casglu'r dreth ar halen. Yn y flwyddyn honno priododd ei wraig gyntaf Elisabeth Griffith, o Dŷ Wydryn ger Caergybi. Cafodd ei gyflogi i wneud arolwg o dir ystad Bodorgan gan Owen Meyrick yn 1734. O 1737 hyd 1744 ymgymrodd â'r dasg anferth o fapio a syrfeio arfordir Cymru, gwaith a gyhoeddywd fel siart a chyfrol o fapau yn 1748.

Yn dirfesurydd symudodd i Geredigion yn 1742 a chafodd y gwaith o ofalu am hawliau'r Goron yn ardaloedd y gweithfeydd plwm yn ardal Pumlumon yn 1744. O 1746 hyd 1757 bu'n byw yng Ngalltfadog, ger Capel Dewi. Priododd ei ail wraig Ann Lloyd o Benbryn, Goginan, yn 1749. Bu farw ym Mhenbryn, yn 1765.

Llenor a hynafiaethydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddiddorai Lewis Morris yn fawr yn llenyddiaeth Gymraeg y gorffennol. Fel y Morysiaid eraill, gwelai ddiffyg amlwg yn safonau llenyddol ei ddydd a cheisiai newid hynny trwy ymledu gwybodaeth am fawrion y gorffennol fel Dafydd ap Gwilym. Roedd yn gweld yr angen yn ogystal am lenyddiaeth gyfoes ddifyr o safon dda gan fod cynifer o bobl yn troi at lenyddiaeth Saesneg am hynny, ac yn 1735 cyhoeddodd Tlysau yr Hen Oesoedd i'r perwyl hwnnw. Ysgrifennodd nifer fawr o gerddi hwylus, llythyrau a darnau rhyddiaith dychanol yn null llenyddiaeth fwrlesg a ffansïol y ganrif. Cyhoeddwyd rhai ohonynt yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd yn 1763 (sy'n cynnwys hefyd cerddi gan Goronwy Owen ac eraill o Gylch y Morrisiaid). Ond arosodd swmp ei waith llenyddol a hynafiaethol heb ei gyhoeddi yn ei oes, yn cynnwys cyfrol ar hynafiaethau Môn (Celtic Remains), geiriadur, llythyrau llenyddol a cherddi.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith Lewis Morris[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Tlysau yr Hen Oesoedd (1735)
  • Nifer o'r cerddi yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763)
  • Celtic Remains, gol. Daniel Sylvan Evans (1878)
  • Nifer o'r llythyrau yn y cyfrolau The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris (dwy gyfrol, 1907, 1909) a Additional Letters of the Morrises of Anglesey (dwy gyfrol, 1947, 1949), gol. gan J. H. Davies

Astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]