Llanfihangel Tre'r Beirdd
Math | plwyf |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.327688°N 4.316849°W |
Crefydd/Enwad | Anglicaniaeth |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
Plwyf eglwysig yng ngogledd-ddwyrain Môn yw Llanfihangel Tre'r Beirdd. Gorwedd Mynydd Bodafon yng ngogledd y plwyf. Pentrefi bychain Capel Coch a Maenaddwyn yw'r unig gymunedau o bwys yn y plwyf.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Twrcelyn. Mae'r enw'n awgrymu'n gryf fod y "dref" ganoloesol yn perthyn i deulu o feirdd.
Yn y 18g bu'r plwyf yn gartref i'r Morrisiaid: meibion Morris Prichard a'i briod Marged o'r Tyddyn Melys, ger eglwys y plwyf, ac wedyn o'r Fferm (symudasant dros y bryn i ffermdy Pentre-eiriannell ar lan Traeth Dulas yn 1707). Yma hefyd, mewn tyddyn o'r enw "Y Merddyn", yng Nghapel Coch y ganwyd un o fathemategwyr mawr y byd, sef William Jones, y gŵr a gysylltodd y cysonyn mathemategol π (a sillefir hefyd fel pi) i'r hyn sydd (yn fras) yn hafal i 3.141592654. Defnyddir y symbol hwn bellach drwy'r byd.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- William Jones (1675-1749), mathemategwr enwog
Y Morysiaid:
- John Morris (1706-1740)
- Lewis Morris (1701-1765)
- Richard Morris (1703-1779)
- William Morris (1705-1763)