Llanfihangel Tre'r Beirdd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Plwyf yng ngogledd-ddwyrain Môn yw Llanfihangel Tre'r Beirdd. Gorwedd Mynydd Bodafon yng ngogledd y plwyf. Pentrefi bychain Capel Coch a Maenaddwyn yw'r unig gymunedau o bwys yn y plwyf.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Twrcelyn. Mae'r enw'n awgrymu'n gryf fod y "dref" ganoloesol yn perthyn i deulu o feirdd.

Yn y 18g bu'r plwyf yn gartref i'r Morrisiaid: meibion Morris Prichard a'i briod Marged o'r Tyddyn Melys, ger eglwys y plwyf, ac wedyn o'r Fferm (symudasant dros y bryn i ffermdy Pentre-eiriannell ar lan Traeth Dulas yn 1707). Yma hefyd, mewn tyddyn o'r enw "Y Merddyn", yng Nghapel Coch y ganwyd un o fathemategwyr mawr y byd, sef William Jones, y gŵr a gysylltodd y cysonyn mathemategol π (a sillefir hefyd fel pi) i'r hyn sydd (yn fras) yn hafal i 3.141592654. Defnyddir y symbol hwn bellach drwy'r byd.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Morysiaid: