Neidio i'r cynnwys

Evan Evans (Ieuan Fardd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ieuan Fardd)
Evan Evans
FfugenwIeuan Fardd, Ieuan Brydydd Hir Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Mai 1731 Edit this on Wikidata
Ceredigion, Lledrod Edit this on Wikidata
Bu farw4 Awst 1788, 1789 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, ciwrad, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler Evan Evans (gwahaniaethu). Am y bardd canoloesol Ieuan Brydydd Hir gweler Ieuan Brydydd Hir Hynaf.

Ysgolhaig, bardd, ac offeiriad o Gymru oedd Evan Evans, enwau barddol Ieuan Fardd a Ieuan Brydydd Hir (20 Mai 1731 - 4 Awst 1788).

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed ef ym mhlwyf Lledrod, Ceredigion, a chafodd addysg yn ysgol Ystrad Meurig dan Edward Richard. Aeth i Goleg Merton, Rhydychen yn 1750, ond ymadawodd heb gymryd gradd. Cafodd ei urddo yn ddiacon yn Llanelwy yn 1754 ac yn offeiriad yn 1755. Bu'n gurad ym Manafon, Sir Drefaldwyn, yna yn Lyminge, Swydd Caint. Yn ddiweddarach, bu'n cynorthwyo ficer Llanafan Fawr, Sir Frycheiniog, yna'n gurad yn Llanllechid, Trefriw a Llanrhychwyn ac yna am bum mlynedd yn Llanfair Talhaearn, lle cymerodd wasanaeth priodas Twm o'r Nant ac Elizabeth Hughes. Dychwelodd i Geredigion am gyfnod byr, yna bu yn Lloegr am gyfnod.

Dychwelodd i Ogledd Cymru fel curad eto, yn Llanystumdwy (1769-70), Llandecwyn a Llanfihangel y Traethau (1770-1), Llanberis (1771-2), a Tywyn (1772-77).

Gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]

Ymddengys i'w ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg ddechrau trwy ei gysylltiad â Lewis Morris. Treuliodd lawer o amser yn copïo llawysgrifau Cymreig, a bu'n gohebu llawer ag ysgolheigion yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys Goronwy Owen, Dafydd Jones o Drefriw a Daines Barrington. Yn 1764 cyhoeddodd y flodeugerdd arloesol Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, sy'n cynnwys rhai o gerddi Aneirin a Taliesin. Cafodd ei noddi gan Syr Watkin Williams Wynn o 1771 hyd 1778, a bu'n gweithio yn llyfrgell Wynnstay, ond digiodd Syr Watkin pan aeth Ieuan i Gaerfyrddin i astudio Hebraeg ac Arabeg yn 1777-8 yn lle mynd ati i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil. Treuliodd y rhan fwyaf o ddeng mlynedd ddiwethaf ei oes yn byw gartref gyda'i fam; roedd alcoholiaeth wedi bod yn broblem iddo ers blynyddoedd.

Cyfansoddodd gerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac roedd yn englynwr dawnus. Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yw'r gadwyn englynion 'Llys Ifor Hael' a gyfansoddwyd pan ymwelodd ag adfeilion llys Ifor ap Llywelyn ('Ifor Hael', noddwr Dafydd ap Gwilym) ym Masaleg ym 1779 yng nghwmni Iolo Morgannwg. Mae ei gerdd Saesneg 'The Love of our Country' yn gerdd wladgarol sy'n ceisio tanio balchder y Cymry yn eu hetifeddiaeth lenyddol a'u hanes.

Trefnwyd rhywfaint o nodded iddo gan Paul Panton a Thomas Pennant. Ar farwolaeth Ieuan, trosglwyddwyd ei bapurau i Panton, a defnyddiwyd llawer ohonynt ar gyfer y Myvyrian Archaiology of Wales.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]
  • Y Bywgraffiadur Arlein (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
  • Gerald R. Morgan, Llên y Llenor: Ieuan Fardd (Gwasg Pantycelyn, 1988)
  • Erthyglau Aneirin Lewis arno, a gasglwyd ynghyd yn Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis, gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]