Penrhoslligwy
| Math | pentref |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Moelfre |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.3483°N 4.28406°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
| AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Plwyf eglwysig ac ardal ym Môn yw Penrhoslligwy (
ynganiad ) (hefyd Penrhos Lligwy).
Hanes
[golygu | golygu cod]Penrhoslligwy oedd maerdref Cwmwd Twrcelyn, un o chwech cwmwd ar Ynys Môn. Nid oes olion o'r faerdref yn bodoli erbyn heddiw. Fel gweddill yr ynys, y prif alwedigaeth oedd gweithio'r tir, rhandiroedd yn cael eu rhannu rhwng y taeogion gan y Tywysog neu ei swyddogion. Roedd yn rhaid i’r tenantiaid ddarparu bwyd, tanwydd, rhai nwyddau domestig, llafur a rhent i'r llys. Buasai y Tywysog yn gadael ei brif lys yn Aberffraw i dreulio'i amser yn ei faesdrefi teirgwaith y flwyddyn.[1]
Ceir eglwys y plwyf ym Mhenrhoslligwy, sef Eglwys Sant Mihangel.
Natur
[golygu | golygu cod]Lleolir Mynydd Bodafon yn rhannol ym mhlwyf Mhenroslligwy.
Dynodwyd rhan fawr o dir Penrhoslligwy yn ardal gadwraeth - gweler Penrhoslligwy (SoDdGA).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A.D. Carr, Medieval Anglesey. Anglesey Antiquarian Society, Llangefni, 1982.
