Penbryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Penbryn
St Mihangel Penbryn - St Michael's Church, Penbryn, Ceredigion, Wales 26.jpg
Eglwys Sant Mihangel, Penbryn
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1399°N 4.4944°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000396 Edit this on Wikidata
Cod OSSN294520 Edit this on Wikidata
Cod postSA44 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan a chymuned yn ne Ceredigion yw Penbryn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ger yr arfordir, rhwng Llangrannog ac Aberporth. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Tre-saith, Brynhoffnant, Glynarthen, Sarnau a Than-y-groes. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,283.

Mae'r traeth yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cynrychiolir y pentref yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Maen Corbalengus[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Maen Corbalengus
Maen Corbalengi

Rhwng Penybryn a Thre-saith, mae carreg o'r 6g gyda'r arysgrif CORBALENGI IACIT ORDOVS, neu "[Yma y] gorwedd Corbalengws yr Ordoficiad". Mae'n debyg felly fod Corbalengws wedi ymfudo yma o'r gogledd.

Eglwys Sant Mihangel[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys St. Mihangel, Penbryn. Yma y claddwyd Allen Raine.

Cofrestrwyd yr eglwys yn Radd I, gan ei bod yn Ganoloesol. Mae'r to presennol yn tarddu o'r 17g a'r ffenestri o'r 19g.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Penbryn (pob oed) (1,270)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penbryn) (619)
  
49.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penbryn) (651)
  
51.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Penbryn) (241)
  
42.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]