Aber-porth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Aberporth)
Jump to navigation Jump to search
Aber-porth
Aberporth 978623.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°8'N, 4°33'W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000358 Edit this on Wikidata
Cod OS SN2549251448 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref a Chymuned yng Ngheredigion, 10 km i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi, yw Aber-porth("Cymorth – Sain" ynganiad ).[1][2] Roedd ganddi 2374 o drigolion yng nghyfrifiad 2011, gyda 44% ohonynt yn siarad Cymraeg. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Aber-porth, Blaenannerch, Blaen-porth a Pharc-llyn.

Ers 1938 mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn safle profi rocedi ym mhentref Parc-llyn gerllaw. Yn ddiweddar fe agorwyd 'Parc Aberporth', parc busnes sy'n bwriadu dod yn ganolfan profi awyrennau di-beilot.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cododd y Sacson Gilbert de Clare gaer gadarn ar y mwnt gerllaw fel un o'i ymdrechion i goncro Ceredigion tua'r flwyddyn 1110.

Seliwyd gwaith y cymdeithasegydd David Jenkins ar astudiaeth o drigolion y pentref: mynychwyr dwy dafarn y pentref ar y naill law a'r capel ar y llall.

Carreg Bica[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Carreg Bica yn graig eiconig ar Draeth y Dyffryn. Yn ystod Storm Brian, yn Hydref 2017, torrwyd darn anferthol ohoni.[3]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aber-porth (pob oed) (2,374)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aber-porth) (1,018)
  
44.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aber-porth) (1317)
  
55.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aber-porth) (513)
  
47%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Sillafiad Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd: 2008; tud. 10
  2. Dicionary of Place-names in Wales; Gwasg Gomer; Cyhoeddwyd 2007; tud 11
  3. cambrian-news.co.uk; Y Cambrian News; adalwyd 30 Mai 2018.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.