Mwnt

Oddi ar Wicipedia
Mwnt
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1368°N 4.6388°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN194520 Edit this on Wikidata
Cod postSA43 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Anheddiad bach a phlwyf yng nghymuned Y Ferwig, Ceredigion, Cymru, yw Mwnt[1] (yn fwy ffurfiol Y Mwnt). Saif ar arfordir de Ceredigion, rhwng Aberteifi ac Aberporth.

Yn y 12g ceisiodd y Ffleminiaid lanio yno, ond methiant fu eu hymgais i oresgyn Ceredigion. Ar ddechrau'r 20g dywedid fod esgyrn y goresgynwyr i'w gweld o hyd dan y tywod ar dywydd garw. Hyd tua diwedd y 18g arferai trigolion y Mwnt ddathlu'r Sul cyntaf ar ôl Calan Ionawr trwy frwydro yn erbyn ei gilydd, efallai mewn coffadwriaeth o'r fuddugoliaeth ar y Ffleminiaid: Y Sul Coch y gelwid y Sul hwnnw.

Nodweddir Mwnt gan ei thirwedd drawiadol, yn arbennig y traeth cysgodlyd a'r hen eglwys gerllaw. Enw'r eglwys fechan wyngalchog yw Eglwys y Grog. Dyma'r eglwys hynaf yng Ngheredigion o ran ei hadeiladwaith, sy'n dyddio o'r 14g fel y saif hi heddiw. Mae'r gwaith pren heb yr un hoelen ac mae'r muriau oddi mewn yn wyngalchog hefyd. Yn anffodus nid yw'r Grog (sgrîn) ganoloesol yno erbyn heddiw. Mae Ffynnon y Grog gerllaw yr eglwys.

Mae'r eglwys a'r traeth fel ei gilydd yn cael eu gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ceir cyfoeth o fywyd gwyllt yn yr ardal ac mae'n gartref yn yr haf i nifer o ddolffinau, morloi a llamhidyddion.

Ers 30 mlynedd mae'r gwleidydd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn arfer mynd i Fwnt am ei wyliau: "Mae pawb angen gwyliau", meddai, "a dyma le delfrydol."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llandybie, 1952). Tud. 107-8.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]