Pontarfynach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pontarfynach
Three Bridges of Devil's Bridge, Ceredigion.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.3768°N 3.8498°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)


Codwyd tair pont, un ar ben y llall, dros Afon Mynach, nepell o'i haber ag Afon Rheidol, ym mhentref Pontarfynach (Saesneg: Devil's Bridge), Ceredigion, gorllewin Cymru.

Mynachod Abaty Ystrad Fflur a adeiladodd y bont gyntaf yn ystod yr Oesoedd Canol. Pontarfynach yw pen y daith ar Reilffordd Dyffryn Rheidol.

Yn 2001 roedd 481 o bobl yn byw ym mhentref Pontarfynach, a 54% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Mae Pontarfynach yn bentref eithaf unigryw gan fod yma Reilffordd, Marchnad Ddefaid (ar bryhawn Mercher), Gwesty a Thafarn, Caffi, Ysgol Gynradd, Gwersyll Carafannau a Chanolfan (sef hen gapel Mynach) sydd yn cael ei addasu ar gyfer defnydd aml bwrpas.

Adeiladwyd yr orsaf a'r rheilffordd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf (tua 1904) er mwyn cludo'r mwyn o'r gweithfeydd lleol i'r porthladd yn Aberystwyth. Mae'r rheillffordd yn 12 milltir o hyd ac erbyn heddiw mewn dwylo preifat. Bu buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae miloedd o deithwyr yn cael eu cludo i'r pentref er mwyn gweld y golygfeydd lleol.

Ym 1824 fe ddaeth y bardd enwog William Wordsworth i ymweld a'r pentref gan ryfeddu ar y rhaeadr nes ei ysbrydoli i gyfansoddi y gerdd isod:


To the Torrent at the Devil’s Bridge (1824)

HOW art thou named? In search of what strange land,

From what huge height, descending? Can such force

Of waters issue from a British source,

Or hath not Pindus fed thee, where the band

Of patriots scoop their freedom out, with hand

Desperate as thine? Or come the incessant shocks

From that young stream that smites the throbbing rocks

Of **Viamala? There I seem to stand,

As in life’s morn; permitted to behold,

From the dread chasm, woods climbing above woods,

In pomp that fades not; everlasting snows;

And skies that ne’er relinquish their repose:

Such power possess the family of floods

Over the minds of poets, young or old!


William Wordsworth (1770–1850)


Addysg ym Mhontarfynach

Roedd yr ysgol gyntaf wedi ei sefydlu ym 1866 mewn ystafell uwchben y Ty Capel, oedd drws nesaf i Gapel Methodistiaidd Mynach. Rhoddwyd yr enw Ysgol 'Y Llofft' arni. Yr athraws gyntaf oedd Saesnes o'r enw Miss Charlotte Newbury.


Yn dilyn Deddf Addysg 1870 roedd disgwyl i bob plwyf sefydlu Bwrdd Ysgol i adeiladu a rheoli ysgolion. Y ddeddf seneddol hon oedd y gyntaf i ymdrin yn benodol a darparu addysg ym Mhrydain, ac roedd yn ymrwymo i sicrhau addysg ar raddfa genedlaethol. Ym 1971 sefydlwyd Bwrdd Ysgol ym Mhontarfynach a sicrhawyd darn o dir o'r enw Tir Cae Newydd, sef darn o dyddyn Rhostyddyn Fach drwy garedigrwydd Mr J B Balcomb. Roedd ef yn wr busnes llwyddiannus, ac yn berchen ar westy yr Hafod yn y pentre. Ef hefyd a adeiladodd westy yn Aberystwyth o'r enw 'The Queen's Hotel'. Yn ddiweddarach fe ddaeth yr adeilad hwnnw yn Bencadlys Awdurdod Addysg Sir aberteifi (Ceredigion wedi hynny) ynghyd a Gorsaf yr Heddlu a'r Llys, nes i'r sefydliadau hynny symud i adeiladau pwrpasol eraill yn y dref.


Adeiladwyd yr ysgol yn ystod cyfnod pan oedd yna gymuned fywiog a llawer o weithgarwch yn y gweithfeydd mwyn lleol. Paratowyd cynlluniau ac adeiladwyd yr ysgol gan wr o'r enw Thomas Griffiths ar yr amod ei bod yn barod erbyn Mehefin 30 1876. Bu'n rhaid i'r Bwrdd gael benthyciad o £650 oddi wrth y 'Public Works Loan Commission' er mwyn talu am yr adeilad. Fe gostiodd adeilad yr ysgol £533, ond bu angen £307 hefyd er mwyn adeiladu Ty'r Ysgol. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am y tair ysgol oedd yn y plwyf sef: Mynach, Trisant a Cwmystwyth. Cyfanswm cyflogau athrawon ac athro- ddisgybliony dair ysgol ym 1876 oedd £267.






yyy



     



Summer of 1876- Children went into the new school.


·        


·      



·    






Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontarfynach (pob oed) (455)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontarfynach) (192)
  
43.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontarfynach) (189)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Pontarfynach) (74)
  
35.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%


Oriel Luniau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; "Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant."; adalwyd 31 Mai 2013]