Rheilffordd Dyffryn Rheidol
Math | cwmni cludo nwyddau neu bobl, rheilffordd cledrau cul, rheilffordd dreftadaeth, amgueddfa annibynnol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.41114°N 4.07909°W |
Hyd | 18.9 cilometr |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Rheilffordd gul yw Rheilffordd Cwm Rheidol (Saesneg: Vale of Rheidol Railway), â chledrau lled 1 troedfedd ac 11 3/4 modfedd iddi. Fe ddringa'r rheilffordd o Aberystwyth i Bontarfynach, drwy Ddyffryn Rheidol. Defynyddir y rheilffordd yn bennaf gan dwristiaid ond adeiladwyd hi'n wreiddiol i gludo plwm o'r mwyngloddiau.
Rheilffordd Dyffryn Rheidol | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Hanes
[golygu | golygu cod]Pasiwyd deddf i adeiladu'r rheilffordd ar 6 Awst 1897. Doedd hi ddim yn bosibl codi arian mor gyflym ag y disgwyliwyd,[1] ond dechreuodd y gwaith ym 1901. Y Prif Beiriannydd oedd Syr James Szlumper. Defnyddiwyd locomotif, Talybont, a ailenwyd yn Rheidol, o Dramffordd Plynlimon a Hafan. Agorwyd y Rheilffordd ar 22 Rhagfyr, 1902, gan ddefnyddio dau locomotif 2-6-2T a adeiladwyd gan Davies a Metcalfe a locomotif 2-4-0T a adeiladwyd gan Bagnall.[2] Ail-agorwyd rhai o byllau plwm yn yr ardal, ac aeth y plwm ar y rheilffordd i Aberystwyth ac ymlaen ar longau. Cludwyd plwm o Bwll Plwm Rheidol gan raff dros Ddyffryn Rheidol i'r Rheilffordd yn ymyl Rhiwfron.[2] Cludwyd pren i'r cymoedd, lle'i defnyddiwyd fel pyst yn y pyllau. Aberystwyth, Llanbadarn, Capel Bangor, Nantyronen a Phontarfynach oedd y gorsafoedd gwreiddiol.
Ym 1912, ystyriwyd defnyddio pŵer trydan o Afon Rheidol, ond daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Cambrian yr un flwyddyn. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, caewyd Pwll Plwm Rheidol a chafwyd llai o wasanaethau i deithwyr. Ym 1923, daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o Reilffordd y Great Western. Adeiladwyd gorsaf newydd drws nesaf i brif orsaf Great Western yn y dref.[2]. Daeth y gwasanaeth nwyddau i ben, a chaewyd y lein i'r harbwr. Daeth gwasanaeth dros y gaeaf i ben hefyd ym 1930. Caewyd y lein yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ym 1948 daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffyrdd Prydeinig. Ym 1966, ar ôl y cau hen Reilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau, trosglwyddwyd terminws lein Dyffryn Rheidol i'w hen blatfform yn y brif orsaf.[2]
Preifateiddiwyd y lein ym 1989, a newidiwyd ei statws i fod yn berchnogaeth ymddiriedolaeth elusennol.
Locomotifau
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y tri locomotif 2-6-2t presennol gan Reilffordd y Great Western yn ei weithdai yn Swindon rhwng 1923 a 1924. Yn 2015 roedd rhif 7, "Owain Glyndŵr", yn cael ei adnewyddu. Mae rhif 8, Llewelyn, a rhif 9, Prince of Wales, yn gweithio ar y rheilffordd.
Rhestrir isod y locomotifau a oedd ym mherchnogaeth y rheilffordd neu a logwyd ganddynt, neu wedi eu cynllunio ar y gweill:
Delwedd | Locomotif | Hen rif RDR |
Rhif GWR ym 1923 |
Rhif GWR ym 1946 |
Rhif TOPS ym 1968 |
Rhif presennol |
Enw | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Locomotifau cynt | ||||||||
- | 1 | 1 | 1212 | - | - | - | Edward VII | Sgrapiwyd yn 1930au (cafwyd gwared o'i enw 1923). |
- | 2 | 2 | 1213 † | - | - | - | Prince of Wales | Sgrapiwyd 1924. |
- | 3 | 3 | 1198 | - | - | - | Rheidol | Tynnwyd ôl a sgrapiwyd 1924. |
- | 4 | 4 | - | - | - | 4 | Palmerston | Llogwyd o Reilffordd Ffestiniog ym 1902. Dychwelodd ym 1922, ac yn gweithio yno o hyd. |
Locomotifau presennol | ||||||||
7 | - | 7 | 7 | 98007 | 7 | Owain Glyndŵr | Yn cael ei adnewyddu. Enwyd gan Reilffyrdd Brydeinig. | |
8 | - | 8 | 8 | 98008 | 8 | Llywelyn | Enwyd gan Reilffyrdd Brydeinig. | |
9 | - | 1213 † | 9 | 98009 | 9 | Prince of Wales | Enwyd gan Reilffyrdd Brydeinig. | |
10 | - | - | - | - | 10 | - | Locomotif diesel. |
† Locomotifau gwahanol. Cafwyd yr un rhif fel arfer cyllidol.
Cerbydau
[golygu | golygu cod]Mae'r rheilffordd yn defnyddio cerbydau a adeiladwyd gan Reilffordd y Great Western yn Swindon rhwng 1923 a 1938. Lliwiau wedi amrywio dros y blynyddoedd, ond wedi bod yn frown ac hufen ers y 1980au.[3]
Rhif GWR (1923) |
Rhif BR (1948) |
Rhif BR (1987) |
Rhif VoR (1989) |
Adeiladwyd | Adeiladwr | Math | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|---|
137 | M137W | 137 | 19 | 1938 | Swindon | Brêc llawn pedair olwyn | Adeiladwyd ar is-ffrâm 1902. |
4143 | M4143W | 4143 | 1 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | |
4144 | M4144W | 4144 | 2 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | |
4145 | M4145W | 4145 | 3 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | |
4146 | M4146W | 4146 | 4 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | |
4147 | M4147W | 4147 | 5 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | |
4148 | M4148W | 4148 | 6 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | |
4149 | M4149W | 4149 | 7 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | Atgyweirir ar hyn o bryd.Nodyn:When |
4150 | M4150W | 4150 | 8 | 1938 | Swindon | Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth | |
4151 | M4151W | 4151 | 9 | 1938 | Swindon | Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth | |
4994 | M4994W | 4734 | 10 | 1938 | Swindon | Salŵn caeëdig ail ddosbarth | |
4995 | M4995W | 4735 | 11 | 1938 | Swindon | Salŵn brêc caeëdig dosbarth cyntaf/ail | |
4996 | M4996W | 4736 | 12 | 1938 | Swindon | Salŵn brêc caeëdig dosbarth cyntaf/ail | |
4997 | M4997W | 4737 | 13 | 1923 | Swindon | Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth | |
4998 | M4997W | 4738 | 14 | 1923 | Swindon | Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth | |
4999 | M4999W | 4739 | 15 | 1923 | Swindon | Salŵn caeëdig "Vista" | Ar gadw. |
5000 | M5000W | 4740 | 16 | 1923 | Swindon | Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth | Ar gadw. |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan Steamrailwaylines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-02-10.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwefan Rheilffyrdd Treftadaeth Prydeinig". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2013-02-10.
- ↑ British Railway Locomotives & Coaching Stock, cyhoeddwyd gan Platform 5 rhwng 1984 a 1987.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Rheilffordd Dyffryn Rheidol