Neidio i'r cynnwys

Gorsaf reilffordd Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Aberystwyth
Mathgorsaf reilffordd, gorsaf pengaead, break-of-gauge station Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol23 Mehefin 1864 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4139°N 4.0816°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN585815 Edit this on Wikidata
Cod postSY23 1LH Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Côd yr orsafAYW Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrenau Arriva Cymru, KeolisAmey Cymru, Wales and Borders, Central Trains, Regional Railways Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethNetwork Rail Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Gorsaf reilffordd Aberystwyth yn orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu tref lan y môr a phrifysgol Aberystwyth yng Ngheredigion, Cymru. Mae'n gwasanaethu teithwyr yn cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru, ac mae'n derfyn y Rheilffordd y Cambrian a hefyd y rheilffordd gul Bro Rheidol.

Cafodd yr orsaf wreiddiol ei hagor yn 1864 gan y Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru, a ddaeth yn rhan o Reilffyrdd y Cambrian wedyn. Roedd yn orsaf derfynol ar y lein o Fachynlleth o'r cychwyn a daeth hefyd yn orsaf derfynol y Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau, o Gaerfyrddin i Aberystwyth drwy Lanbedr Pont Steffan.

Agorwyd adeilad gorsaf newydd gan Reilffordd Fawr y Gorllewin (GWR) yn 1925 ac erbyn hynny roedd gan yr orsaf bum platfform, yn ogystal â sied injans, cyfarpar nwyddau a chyfarpar llwytho glo.[1]

Caewyd y lein i Gaerfyrddin yn 1964, gan adael platfform 1 a 2 a'r gofod rhyngddynt yn wag. Defnyddwyd yr ardal hyn wedyn gan Reilffordd Cwm Rheidol, a adeiladodd platfform gwastad rhwng y ddau blatfform gwreiddiol, yn ogystal â meddiannu'r hen sied injans. Felly daeth yr orsaf yn orsaf pengaead.[2]

Gyda defnydd o unedau yn hytrach nag injans a llai o drenau arbennig, caewyd platfform 4 yn 1982 (roedd platfform 5 wedi bod ar gyfer defnydd argyfwng ers blynyddoedd) ac o hynny ymlaen dim ond un platfform sydd ar y lein fawr.[3]

Gwaredwyd yr adeilad GWR yn 1990au ac ers 2001 mae'r rhan fwyaf o'r adeilad yn dafarn Wetherspoon. Mae teithwyr bellach yn defnyddio'r hen adeiladau orsaf o gyfnod y Cambrian. Mae'r adeiladau i gyd yn rhestredig (Gradd II).[4]

Bellach mae gorsaf Rheilffordd Cwm Rheidol wedi symud unwaith eto i safle newydd a saif sied cerbydau y rheilffordd honno rhwng hen blatfformau 1 a 2.[5]

Gwasanaethau

[golygu | golygu cod]

Mae 16 gwasanaeth y dydd yn gadael Aberystwyth o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn, gyda 7 yn mynd mor bell â Birmingham Rhyngwladol.

Tu mewn yr orsaf
Arwydd rhybudd COVID-19 ar bilfwrdd drydanol ger yr orsaf

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Aberystwyth railway station - History Points". historypoints.org. Cyrchwyd 2025-11-13.
  2. "Vale of Rheidol Railway, Aberystwyth station - History Points". historypoints.org. Cyrchwyd 2025-11-13.
  3. "Aberystwyth". Chasewaterstuff's Railway & Canal Blog (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-13.
  4. "Listed Buildings - Full Report - HeritageBill Cadw Assets - Reports". cadwpublic-api.azurewebsites.net. Cyrchwyd 2025-11-13.
  5. ""O Gymru i Bedwar Ban Byd" yng Ngorsaf Aberystwyth | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2018-10-26. Cyrchwyd 2025-11-14.
Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.