Trenau Arriva Cymru

Oddi ar Wicipedia
Trenau Arriva Cymru
Gorolwg
MasnachfraintCymru a'r Gororau
8 Rhagfyr 2003 –
13 Hydref 2018
Prif ardal(oedd)Cymru
Ardal(oedd) arallGogledd-orllewin Lloegr
Gorllewin Canolbarth Lloegr
De-orllewin Lloegr
Maint fflyd125 uned
3 set locomotif tynnu
Gorsafoedd weithredir247[1]
Llwybrau weithredir (km)1623.8
Talfyriad National RailAW
OlynyddTrafnidiaeth Cymru
Cwmni rhiantArriva UK Trains
Gwefanarrivatrainswales.co.uk

Roedd Trenau Arriva Cymru (Saesneg: Arriva Trains Wales) yn gwmni a oedd yn gweithredu trenau yng Nghymru a'r gororau, ac yn berchen i Arriva UK Trains. Roedd yn rhedeg gwasanaethau trefol a rhyng-drefol i bob orsaf reilffordd yng Nghymru, yn cynnwys Caerdydd Canolog, Heol y Frenhines, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam, a Chaergybi, a rhai gorsafoedd yn Lloegr fel Henffordd, Amwythig, Caer, Piccadilly Manceinion, New Street Birmingham. Yng Ngogledd Cymru, mae Virgin Trains yn gweithredu trenau o Lundain i Gaergybi, ac yn Ne Cymru, mae First Great Western yn gweithredu trenau o Lundain i Abertawe, a Harbwr Portsmouth i Gaerdydd. Mae Arriva Cross Country'n gweithredu trenau o Nottingham i Gaerdydd.

Cychwynodd y cwmni weithredu yn Rhagfyr 2003, gan gymryd yr awennau o gwmni Wales & Borders. Yn dilyn Deddf Rheilffordd 2005 a Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006, datganolwyd cyfrifoldeb dros y fasnachfraint i Lywodraeth Cymru. Daeth masnachfraint Arriva i ben yn Hydref 2018 ac er i'r cwmni gynnig cais ar gyfer dewis darparwr newydd, fe dynnodd y cwmni allan o'r broses yn Hydref 2017. Mae'r darparwr newydd yn gweithredu o dan adain cwmni sy'n berchen i Lywodraeth Cymru, sef Trafnidiaeth Cymru.

Un o drenau Arriva Cymru'n cyrraedd Deganwy

Ystadegau allweddol (2011-12)[golygu | golygu cod]

  • Cilomedrau teithwyr: 1,142 miliwn
  • Teithiau teithwyr: 28.4 miliwn
  • Cilomedrau trenau wedi eu hamserlennu: 23.6 miliwn
  • Nifer y gweithwyr: 2,012
  • Cilomedrau llwybrau a weithredir: 1,840.8
  • Nifer y gorsafoedd a weithredir: 243 [2]

Dibynadwyedd[golygu | golygu cod]

Mae Trenau Arriva Cymru'n eithaf dibynadwy - mae 89.9% o drenau'n cyrraedd mewn pryd.[3] Yn 2010/2011, roedd y canran o drenau prydlon yn 90.6%.[4]

Perchnogaeth[golygu | golygu cod]

Yn 2010, prynodd Deutsche Bahn y cwmni Trenau Arriva Cymru am £1.59 biliwn.

Trenau Arriva Cymru yn yr hen orsaf reilffordd Pontrilas.

Gwasanaethau iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Arwydd dwyieithog mewn gorsaf

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gorfodi'r holl wasanaethau cyhoeddus i arddangos arwyddion yn Gymraeg. Fodd bynnag, gan ei bod yn gwmni preifat nid oes raid i Drenau Arriva Cymru wneud hynny ond mae'n dewis arddangos arwyddion yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac yn aml gyda'r Gymraeg yn ymddangos gyntaf. Maent hefyd yn darparu cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Trenau[golygu | golygu cod]

Mae gan Drenau Arriva Cymru 123 trên.

Math trên Llun Math Cyflymder Swm Llwybrau Rhifau uned Adeiladwyd
mya km/h
Class 57 Locomotif diesel 95 152 4 Gogledd i Dde Cymru - Premier 57313/314/315/316 1997–2004
Class 121 Uned Diesel 70 112 1 Bae Caerdydd - Heol y Frenhines 121032[5] 1958–1960
Class 142 Uned Diesel 75 120 15 Cymoedd De Cymru 142002 / 006 / 010 / 069 / 072 - 077 / 080 - 083 / 085[6] 1985
Class 143 Uned Diesel 75 120 15 Cymoedd De Cymru 143601 /602 / 604 - 610 / 614 / 616 / 622 - 625[7] (Mae TAC wedi scrapio trên 615 achos fod e'n fynd ar dân) 1985
Class 150/2 Uned Diesel 75 120 31 Cymoedd De Cymru 150208 / 213 / 217 / 227 / 230 - 231 / 235 - 237 / 240 - 242 / 245 / 250 - 260 / 262 / 264 / 267 / 278 - 281 / 283 - 285[8] 1983-85
Class 153 Uned Diesel 75 120 8 Llinellau lleol, Bae Caerdydd - Heol y Frenhines 153303 / 312 / 320 / 323 / 327 / 353 / 362 / 367[9] 1987–1988
Class 158 Uned Diesel 90 145 24 Prif linellau rheilffordd 158818 - 841[10] 1989–1992
Class 175 Uned Diesel 100 160 27 Prif linellau rheilffordd 175001 - 011 / 175101 - 116[11] 1999–2001
Mark 2 Coach Cerbyd 100 160 22 Gogledd i Dde Cymru - Premier 5853 / 5869 / 5913 / 5965 / 5971 / 5976 / 6008 / 6013 / 6035 / 6064 / 6066 / 6119 / 6124 / 6137 / 6162 / 6170 / 6183 / 9503 / 9509 / 9521 / 9524 / 9539 / [12] 1972–1975
Mark 3 Coach Cerbyd 125 200 5 Gogledd i Dde Cymru - Premier 1972–1988

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Our Company". Arriva Trains Wales. Cyrchwyd 28 April 2017.
  2. "http://dataportal.orr.gov.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-21. Cyrchwyd 2012-09-14. External link in |title= (help)
  3. Network Rail Punctuality Statistics
  4.  Class 121 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  5.  Class 142 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  6.  Class 143 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  7.  Class 150 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  8.  Class 153 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  9.  Class 158 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  10.  Class 175 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  11.  Mark 2 coaching stock fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]