Gorsaf reilffordd Casnewydd
| Math | gorsaf reilffordd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Casnewydd |
| Agoriad swyddogol | 1850 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Casnewydd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5896°N 2.999°W |
| Cod OS | ST309883 |
| Rheilffordd | |
| Nifer y platfformau | 4 |
| Côd yr orsaf | NWP |
| Rheolir gan | KeolisAmey Cymru |
![]() | |
| Perchnogaeth | Network Rail |
| Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Gorsaf reilffordd Casnewydd (Saesneg: Newport) yw'r orsaf reilffordd trydydd brysuraf yng Nghymru (ar ôl Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd), sydd wedi'i lleoli yng nghanol dinas Casnewydd. Y perchnogion yw Network Rail ac mae'n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru, er bod First Great Western a CrossCountry hefyd yn darparu gwasanaethau. Mae'r brif fynedfa'r orsaf wedi ei lleoli ar Queensway. Cafodd yr orsaf ei hagor yn wreiddiol yn 1850 gan Gwmni Rheilffordd De Cymru. Prif Beiriannydd y cwmni oedd Isambard Kingdom Brunel, ac roedd lled y trac saith troedfedd, yr un y defnyddiwyd gan Brunel ar Reilffordd Great Western[1]. Newidiwyd lled y traciau i'r lled safonol ym Mai 1872, yr un maint a'r rheilffyrdd eraill yn yr ardal.[2] a chafodd ei ehangu'n sylweddol yn 1928 ac eto yn 2010.
Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn cynnal presenoldeb yng Nghasnewydd.
