Gogledd-orllewin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gogledd-orllewin Lloegr
Gogledd-orllewin Lloegr
Lleoliad rhanbarth Gogledd-orllewin Lloegr
Daearyddiaeth
Arwynebedd 14 165 km² (6ed yn Lloegr)
NUTS 1 UKD
Demograffeg
Poblogaeth
— Cyfanswm

Dwysedd

7,052,177 (2011)
(3ydd yn Lloegr)
475/km²
CMC y pen £15 088 (7fed yn Lloegr)
Llywodraeth
Pencadlys Lerpwl / Manceinion
Cynulliad Cynulliad Rhanbarthol Gogledd-orllewin Lloegr
Etholaeth Senedd Ewrop Etholaeth Senedd Ewrop Gogledd-orllewin Lloegr
Gwefan

Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n cynnwys pum swydd Lloegr:

Mae Gogledd-orllewin Lloegr yn ffinio â Môr Iwerddon i'r gorllewin a'r Pennines i'r dwyrain, ac mae'n ymestyn o Ororau'r Alban yn y gogledd i fynyddoedd Cymru yn y de. Scafell Pike yn Cumbria, sef copa uchaf Lloegr (978m), yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth.

Mae dwy ardal drefol fawr, wedi eu canoli ar ddinasoedd Lerpwl a Manceinion, yn llenwi de'r rhanbarth – dyma'r ardal fwyaf poblog. Mae gogledd y rhanbarth, gan gynnwys gogledd Swydd Gaerhirfryn a Cumbria, yn wledig gan mwyaf.

Yng Nghyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011 roedd gan Gogledd-orllewin Lloegr boblogaeth o 7,052,177.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]