Swydd Efrog a'r Humber

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Swydd Efrog a'r Humber
Swydd Efrog a'r Humber
Lleoliad rhanbarth Swydd Efrog a'r Humber
Daearyddiaeth
Arwynebedd 15 420 km² (5ed yn Lloegr)
NUTS 1 UKE
Demograffeg
Poblogaeth
— Cyfanswm

Dwysedd

5,283,733 (2011)[1]
(7ed yn Lloegr)
328/km²
CMC y pen £15 056 (8fed yn Lloegr)
Llywodraeth
Pencadlys Leeds / Sheffield
Cynulliad Cynulliad Rhanbarthol Swydd Efrog a'r Humber
Etholaeth Senedd Ewrop Swydd Efrog a'r Humber
Gwefan

Un o naw rhanbarth Lloegr yw Swydd Efrog a'r Humber (Yorkshire and the Humber). Mae'n gorchuddio'r rhan fwyaf o sir hanesyddol Swydd Efrog, ynghyd â'r rhan o ogledd Swydd Lincoln a oedd wedi'i lleoli tu mewn i sir Glannau Humber rhwng 1974 a 1996.

Disgwylid i Swydd Efrog a'r Humber (ynghyd â Gogledd-orllewin Lloegr) gynnal refferendwm ar sefydliad cynulliad rhanbarthol etholedig. Yn ddiweddar, yn Tachwedd 2004, gwrthododd rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr greu cynulliad rhanbarthol etholedig mewn refferendwm. Ar ôl hynny, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog bryd hynny, John Prescott, na fyddai'n bwrw ymlaen â refferenda mewn rhanbarthau eraill. Lleolir Cynulliad Swydd Efrog a'r Humber, sydd yn gwango, yn Wakefield.

Whernside, yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog, yw pwynt uchaf y rhanbarth (737m). Hornsea Mere, yn Nwyrain Swydd Efrog, yw'r llyn dŵr croyw mwyaf.

Yn 2011, roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,283,733.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 3 Chwefror 2018