Siroedd hanesyddol Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd siroedd hanesyddol Lloegr yn ardaloedd gweinyddol a sefydlwyd gan y Normaniaid. Roedd siroedd yr Oesoedd Canol yn fodd i orfodi pŵer llywodraeth ganolog, gan alluogi brenhinoedd i reoli eu hardaloedd lleol trwy eu cynrychiolwyr dewisol – siryfion yn wreiddiol ac yn ddiweddarach yr Arglwyddi Rhaglaw – yn ogystal ag ynadon heddwch. Defnyddiwyd siroedd i ddechrau ar gyfer gweinyddu cyfiawnder, casglu trethi a threfnu'r fyddin, ac yn ddiweddarach ar gyfer llywodraeth leol ac ethol cynrychiolaeth seneddol.

Mewn canrifoedd diweddarach, yn ogystal â bod â swyddogaeth weinyddol, chwaraeodd y siroedd ran allweddol wrth ddiffinio diwylliant a hunaniaeth eu hardaloedd. Parhaodd y rôl ddiwylliannol hon hyd yn oed ar ôl iddynt golli eu harwyddocâd gwleidyddol fel canlyiad i greu siroedd gweinyddol ym 1889, ac ailadeiladu llywodraeth leol yn sylweddol ym 1974.

Mae enwau a lleoliadau llawer o'r siroedd hanesyddol yn byw yn siroedd seremonïol Lloegr heddiw.

Rhestr o'r siroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

England traditional counties numbered NS.svg
  1. Northumberland
  2. Cumberland
  3. Swydd Durham
  4. Westmorland
  5. Swydd Efrog
  6. Swydd Gaerhirfryn
  7. Swydd Gaer
  8. Swydd Derby
  9. Swydd Nottingham
  10. Swydd Lincoln
  11. Swydd Amwythig
  12. Swydd Stafford
  13. Swydd Gaerlŷr
  14. Rutland
  15. Swydd Henffordd
  16. Swydd Gaerwrangon
  17. Swydd Warwick
  18. Swydd Northampton
  19. Swydd Huntingdon
  20. Swydd Gaergrawnt
  21. Norfolk
  22. Suffolk
  23. Swydd Gaerloyw
  24. Swydd Rydychen
  25. Swydd Buckingham
  26. Swydd Bedford
  27. Swydd Hertford
  28. Essex
  29. Berkshire
  30. Middlesex
  31. Gwlad yr Haf
  32. Wiltshire
  33. Hampshire
  34. Surrey
  35. Caint
  36. Sussex
  37. Cernyw
  38. Dyfnaint
  39. Dorset

Dim ar y map: Dinas Llundain

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]