Dyfnaint

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Dyfnaint yn Lloegr
Baner Dyfnaint

Sir yn ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Cernyweg: Dewnans Saesneg: Devon). Caerwysg yw'r ddinas sirol. Mae'r sir yn ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a'r Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.

Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfodir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.

Mae baner Dyfnaint yn dyddio o 2003. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.

Ceir sawl enw lle o darddiad Brythonig yn Nyfnaint (er enghraifft combe (cwm), tor (twr), pen (pen)) ond mae nhw'n fwy cyffredin ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Y dosbarth lluosocaf o'r enwau lleoedd hyn yw enwau'r Celtiaid ar afonydd.

Dinasoedd a threfi[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Flag of Devon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddyfnaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.