Ardal Canol Dyfnaint
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Dyfnaint |
| Prifddinas | Tiverton |
| Poblogaeth | 83,786 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 912.8978 km² |
| Cyfesurynnau | 50.9°N 3.49°W |
| Cod SYG | E07000042 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Mid Devon District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Canol Dyfnaint (Saesneg: Mid Devon District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 913 km², gyda 82,311 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Gogledd Dyfnaint i'r gogledd-orllewin, Ardal Torridge i'r gorllewin, Bwrdeistref Gorllewin Dyfnaint i'r de-orllewin, ac Ardal Teignbridge ac Ardal Dwyrain Dyfnaint i'r de, yn ogystal â Gwlad yr Haf i'r dwyrain.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o dan yr enw "Ardal Tiverton", ond fe'i hailenwyd ym 1978.
Rhennir yr ardal yn 62 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Tiverton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bampton, Bradninch, Crediton a Cullompton.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 1 Tachwedd 2020
