Ardal Torridge
Gwedd
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Dyfnaint |
| Prifddinas | Bideford |
| Poblogaeth | 68,143 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 983.8917 km² |
| Cyfesurynnau | 50.893°N 4.265°W |
| Cod SYG | E07000046 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Torridge District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Torridge (Saesneg: Torridge District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 984 km², gyda 68,267 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Gogledd Dyfnaint i'r gogledd-ddwyrain, Ardal Canol Dyfnaint i'r dwyrain, Bwrdeistref Gorllewin Dyfnaint i'r de, yn ogystal â Chernyw i'r gorllewin a Môr Hafren i'r gogledd.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 63 o blwyfi sifil, gydag un ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys Ynys Wair ym Môr Hafren. Mae ei phencadlys yn nhref Bideford. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Great Torrington, Hartland, Holsworthy a Northam.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 1 Tachwedd 2020
