Bwrdeistref Torbay
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref, bwrdeistref sirol, ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Poblogaeth | 139,479 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Hameln |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 62.891 km² |
| Cyfesurynnau | 50.4522°N 3.5569°W |
| Cod SYG | E06000027 |
| GB-TOB | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Torbay Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Torbay (Saesneg: Borough of Torbay).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 62.9 km², gyda 136,264 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Teignbridge i'r gogledd-orllewin, ac Ardal South Hams i'r de-orllewin, yn ogystal â'r Môr Udd i'r dwyrain.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Dyfnaint, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1998.
Mae'r awdurdod yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Torquay. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Brixham a Paignton. Mae'r tair tref glan môr hyn yn ffurfio anheddiad di-dor o amgylch cilfach Bae Tor (Saesneg: Tor Bay), sy'n rhoi ei enw i'r awdurdod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 31 Hydref 2020
