Cumbria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cumbria

Sir yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Cumbria. Ei chanolfan weinyddol yw Caerliwelydd. Mae'r sir yn cynnwys Ardal y Llynnoedd gyda'r mynyddoedd uchaf yn Lloegr.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr un tarddiad sydd i'r enw 'Cumbria' â'r gair 'Cymru'; yn wir, yn yr ardal hon y siaradwyd Hen Gymraeg ddiwethaf yng ngwledydd Prydain ar wahân i Gymru a Chernyw[1] ac efallai Ystrad Clud yn yr Alban. Gair arall am yr iaith ar yr adeg hon yw Cymbrieg, sy'n air academaidd mewn gwirionedd. Mae'r cofnod cynharaf sydd ar glawr o'r gair Hen Saesneg Cumberland yn dyddio o 945; ei ystyr yw 'Tir y Cymry'.

Roedd Rheged, un o deyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd yn cynnwys y cyfan o'r ardal a adnabyddir heddiw fel Cumbria. Ymhlith y brenhinoedd Brythonig yr oedd Urien Rheged (canodd Taliesin iddo), Owain, Dyfnwal ab Owain, a Mael Coluim[angen ffynhonnell]. Yn y 7fed ganrif, daeth o dan deyrnas Northumbria a'i arweinydd Ecgfrith.

Pobl o Cumbria[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

County Flag of Cumbria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato