Manceinion Fwyaf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Manceinion Fwyaf
Math siroedd seremonïol Lloegr, sir fetropolitan, combined authority Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Gogledd-orllewin Lloegr, Lloegr
Poblogaeth 2,812,569 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Peine Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 1,275.9821 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Swydd Gaer, Glannau Merswy, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Derby, Gorllewin Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.5°N 2.3167°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E11000001 Edit this on Wikidata

Sir fetropolitan a sir seremonïol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Manceinion Fwyaf (hefyd Manceinion Fawr) (Saesneg: Greater Manchester).

Roedd Manceinion Fwyaf yn un o chwe sir fetropolitan a grëwyd yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rhennir yr holl siroedd hyn yn fwrdeistrefi metropolitan. Yn wreiddiol roedd y siroedd a'r bwrdeistrefi yn gweithredu mewn strwythur dwy haen o lywodraeth leol, ond ar ôl diddymwyd cynghorau y siroedd metropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985 daeth y bwrdeistrefi metropolitan yn awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir i bob pwrpas.

Fe'i dynodwyd yn ddinas-ranbarth ar 1 Ebrill 2011.

Mae Manceinion Fwyaf yn cwmpasu un o'r ardaloedd metropolitan mwyaf yn y Deyrnas Unedig sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddinas Manceinion ei hun. Fe'i ffurfiwyd o rannau o siroedd hanesyddol Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer a Swydd Efrog. Mae'n cynnwys deg bwrdeistref fetropolitan: Bolton, Bury, Oldham, Rochdale, Stockport, Tameside, Trafford, Wigan, a dinasoedd Manceinion a Salford.

Mae gan y sir arwynebedd o 1,276 km², gyda 2,812,569 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1]

Lleoliad Manceinion Fwyaf yn Lloegr

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ardaloedd awdurdod lleol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhennir y sir yn ddeg bwrdeistref fetropolitan:

EnglandGreaterManchester Numbered.PNG
  1. Dinas Manceinion
  2. Bwrdeistref Fetropolitan Stockport
  3. Bwrdeistref Fetropolitan Tameside
  4. Bwrdeistref Fetropolitan Oldham
  5. Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale
  6. Bwrdeistref Fetropolitan Bury
  7. Bwrdeistref Fetropolitan Bolton
  8. Bwrdeistref Fetropolitan Wigan
  9. Dinas Salford
  10. Bwrdeistref Fetropolitan Trafford

Etholaethau seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhennir y sir yn 27 etholaeth seneddol yn San Steffan:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2020