Andrew Burnham

Oddi ar Wicipedia
Andrew Burnham
Andrew Burnham


Cyfnod yn y swydd
5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010
Prif Weinidog Gordon Brown
Rhagflaenydd Alan Johnson
Olynydd Andrew Lansley

Geni 7 Ionawr 1970
Lerpwl, Glannau Merswy
Etholaeth Leigh
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Marie-France Van Heel

Gwleidydd saesnig a Faer Manceinion Fwyaf yw Andrew Murray "Andy" Burnham (ganwyd 7 Ionawr 1970). Mae'n chyn- Aelod o'r Tŷ'r Cyffredin dros etholaeth Leigh ym Manceinion Fwyaf. a chyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Burnham yn Lerpwl; roedd ei dad yn beiriannwr ffôn a'i fam yn dderbynnydd. Cafodd ei fagu yn Culcheth, Warrington sydd yn rhan o'r etholaeth mae ef yn cynrychioli heddiw. Yn Newton-le-Willows derbyniodd ei addysg, yn ysgol uwchradd Catholig St Aelred. Aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg Fitzwilliam, Caergrawnt, gan ennill MA yn y pwnc. Mae Burnham yn honni iddo ymuno â'r Blaid Lafur yn 1984, pan oedd yn 14 mlwydd oed yn unig, yn ystod streic y glowyr. Ym 1994 cymerodd Burnham swydd fel ymchwiliwr i Tessa Jowell, Aelod Senedd y Deyrnas Unedig a oedd yn weinidog yn yr Adran Iechyd, a pharhaodd gyda'r swydd wedi etholiad 1997. Ym 1998 cymerodd swydd fel ymgynghorwr arbennig i Chris Smith, Ysgrifennydd Gwladol dros Diwylliant, y Cyfryngau a Sbort. Dyma oedd ei swydd olaf cyn cael ei ethol i'r senedd.

Aelod Senedd y DU[golygu | golygu cod]

Bu Burnham yn ymladd am sedd ar etholaeth Leigh[1], sedd ddiogel y blaid Llafur, yn etholiad cyffredinol 2001 wedi i Lawrence Cunliffe ymddeol. Enillodd Burnham fwyafrif o 16,362, a thraddododd ei araith gyntaf ar 4 Gorffennaf 2001. Rhwng 2001 a 2003 eisteddodd Burnham ar y pwyllgor Iechyd.

Yn y Llwyodraeth[golygu | golygu cod]

Yn 2003 cafodd Burnham y swydd fel ysgrfennydd preifat i'r senedd dros David Blunkett, a oedd yn Ysgrifennydd Cartref. Wedi ymddiswyddiad Blunkett yn 2004 cymerodd yr un swydd gyda Ruth Kelly, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Sgiliau. Enillodd ddyrchafiad i'r Swyddfa Gartref yn llywodraeth Tony Blair yn 2005 fel Gweinidog Seneddol o dan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am gardiau adnabyddiaeth. Yn 2006 symudodd eto i ddod yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Iechyd.

Yn y Cabinet[golygu | golygu cod]

Wedi dyrchafiad Gordon Brown i ddod yn Brif Weinidog y DU yn 2007, apwyntiwyd Burnham fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Bu yng nghanol dadleuon wedi iddo ymosod ar adroddiad y Ceidwadwyr ar yr Economi heb ei ddarllen, ac yna yn cytuno gyda pholisi'r Ceidwadwyr i gefnogi teuluoedd trwy'r system drethi.

Ar ôl 6 mis yn unig yn y swydd fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, symudodd i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Eto, bu Burnham ymysg sawl dadl gan gynnwys pardduo cymeriad Shami Chakrabarti, cyfarwyddwraig grwp hawliau dynol Liberty. I ffwrdd o'r dadleuon, cydnabyddwyd Burnham fel gwleidydd effeithlon. Felly, yn ailgymysgiad 2009 apwyntiwyd Burnham i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd. Yn ddiweddar mae Burnham wedi cynnig newidiadau i'r system o gynnal yr henoed ac mae ef yn gyfrifol am ymateb y llywodraeth i ffliw'r moch.

Maer Manceinion[golygu | golygu cod]

Etholwyd Burnham i rôl newydd Maer Manceinion Fwyaf ar 5 Mai 2017[2]. Derbyniodd 63% o'r bleidlais, gan ennill mwyafrif ym mhob un o ddeg bwrdeistref Manceinion Fwyaf. Yn ei araith buddugoliaeth dywedodd fod "[gwleidyddiaeth] wedi bod yn rhy ganolog i Lundain ers gormod o amser ... mae Manceinion Fwyaf yn mynd i gymryd rheolaeth. Rydyn ni'n mynd i newid gwleidyddiaeth a gwneud iddo weithio'n well i bobl."[3] Mae'n un sy'n gofyn am fwy o ddatganoli i ardaloedd yn Lloegr gan ddod yn ffigwr allweddol yn ymateb yn erbyn Boris Johnson yn ystod y pandemig COVID-19.[4] Cafodd ei ailethol yn 2021 gyda mwyafrif mawr, gan ddweud bod yna fandad i ddatganoli yn Lloegr.[5]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Burnham Marie-France van Heel yn 2000 ar ôl cyfarfod yn y Brifysgol a threulio 11 mlynedd gyda'i gilydd. Mae Marie-France wedi gweithio fel pennaeth marchnata gyda MTV, BSkyB a Littlewoods Gaming, a bu'n gyfarwyddwraig cynllunio gyda WRG. Heddiw mae Marie-France yn gyfarwyddwraig MvH Marketing Ltd. Mae gan y ddau un mab a dwy ferch. Yn y gorffennol roedd Burnham yn Gadeirydd anrhydeddys Clwb Cynghrair Rygbi Leigh. Roedd ef yn gricedwr a phêl-droediwr dawnus fel plentyn, gan gystadlu dros Goleg Fitzwilliam yn y ddwy gamp. Mae ef yn aelod o dîm pêl-droed y blaid Lafur, "Demon Eyes", ac mae wedi cefnogi Everton F.C. ers ei blentyndod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MPs representing Leigh". Senedd y DU. Cyrchwyd March 11, 2024.
  2. "Andy Burnham elected mayor of Greater Manchester". The Guardian. May 5, 2017. Cyrchwyd March 11, 2024.
  3. "Mayor Andy Burnham's victory speech - Manchester 1 Liverpool 0". www.wigantoday.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
  4. Bardsley, Andrew (2020-10-10). "Northern leaders reject new furlough and 'won't surrender residents to hardship'". Manchester Evening News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
  5. Knott, Jonathan (2021-05-08). "Re-elected Burnham says devolution has a mandate". Local Government Chronicle (LGC) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Lawrence Cunliffe
Aelod Seneddol dros Leigh
20012017
Olynydd:
Jo Platt
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Alan Johnson
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd
5 Mehefin 200912 Mai 2010
Olynydd:
Andrew Lansley