Alistair Darling
Alistair Darling | |
![]()
| |
Canghellor y Trysorlys
| |
Cyfnod yn y swydd 28 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 | |
Prif Weinidog | Gordon Brown |
---|---|
Rhagflaenydd | Gordon Brown |
Olynydd | George Osborne |
Cyfnod yn y swydd 13 Mehefin 2003 – 5 Mai 2006 | |
Prif Weinidog | Tony Blair |
Rhagflaenydd | Helen Liddell |
Olynydd | Douglas Alexander |
Geni | 28 Tachwedd 1953 Hendon, Middlesex |
Etholaeth | Canol Caeredin (1987-2005) De-Orllewin Caeredin (2005-2015) |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Margaret Vaughan |
Aelod Senedd y Deyrnas Unedig a chyn-Ganghellor y Trysorlys yw Alistair Maclean Darling (ganwyd 28 Tachwedd 1953). Roedd yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth De-Orllewin Caeredin yn Yr Alban.
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Cafodd Darling ei eni yn Llundain i Thomas ac Anna Darling. Roedd Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros etholaeth De Caeredin (1945-1957), Syr William Darling, yn berthynas iddo. Yn Kirkcaldy y derbyniodd ei addysg, yn ysgol fonedd Loretto, Musselburgh. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberdeen lle roedd ef yn arwain Undeb y Myfyrwyr. Enillodd gradd yn y Gyfraith, gan ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr yn 1978 a newid i fod yn fargyfreithiwr yn 1984. Ymunodd a'r Blaid Lafur yn 1977. Enillodd sedd fel cynghorydd ar Gyngor Ardal Lothian yn 1982 hyd at ennill sedd yn San Steffan yn 1987. Priododd Darling y cyn-newyddiadurwr Margaret McQueen Vaughan yn 1986. Mae ganddynt fachgen o'r enw Calum (ganwyd 1988) a merch o'r enw Anna (ganwyd 1990). Dëellir fod Darling yn hoff o wrando ar gerddoriaeth Pink Floyd, Coldplay, Leonard Cohen a The Killers.
Aelod Senedd y DU[golygu | golygu cod]
Cafodd ei ethol fel cynrychiolwr etholaeth Canol Caeredin yn etholiad cyffredinol 1987, gan guro'r cyn-aelod Ceidwadol, Syr Alexander Fletcher. Ers 2005 mae Darling wedi cynrychioli etholaeth De-Orllewin Caeredin. Yn 1988 bu Darling yn aelod o arweinyddiaeth gwrthblaid Neil Kinnock fel un o lefarwr materion cartref. Wedi etholiad 1992, symudodd yn llefarydd materion y Trysorlys, ac yna'n brif ysgrifennyd yr wrthblaid i'r Trysorlys fel rhan o arweinyddiaeth gwrthblaid Tony Blair.
Gweinidog llywodraeth[golygu | golygu cod]
Wedi etholiad llwyddiannus Plaid Llafur yn 1997, bu Darling yn Brif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, yn gweithio gyda Gordon Brown. Darling yw un o ddim ond tri sydd wedi parhau fel gweinidogion ers 1997. Wedi i Harriet Harman gadael fel Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol yn 1998, cymerodd Darling y swydd. Yn cyd-fynd gyda newid Adran Nawdd Cymdeithasol i fod yn Adran Gwaith a Phensiynau yn 2001, cafodd Darling enw newydd i'w swydd fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Wedi ymddiswyddiad Stephen Byers yn 2002 fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth, symudodd Darling i gymryd yr adran drosodd.
Adran Trafnidiaeth, Swyddfa'r Alban ac Adran Diwydiant a Masnach[golygu | golygu cod]
Yn ei amser fel Ysgrifennydd Cludiant, gofynwyd i Darling i "tynnu'r adran o penawdau'r newyddion". Yn wir, bu Darling yn llwyddiannus yn cwbwlhau'r tasg yma, ond mae rhai yn cwestiynu os bu ef yn cwbwlhau unrhyw beth arall. Bu'n gyfrifol dros ffurfio Network Rail, oedd yn cymryd drosodd gwaith Railtrack. Yn 2003 mi wnaeth Darling gymryd swydd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i gyd-fynd gyda'i swydd yn yr adran trafnidiaeth. Ym Mai 2006, symudodd Darling o'r adran trafnidiaeth a Swyddfa'r Alban i ddod yn Ysgrifennydd Gwladol Dros Ddiwydiant a Masnach. Cymerodd Douglas Alexander drosodd fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth a'r Alban.
Canghellor y Trysorlys[golygu | golygu cod]
Ar ôl i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog y DU, apwyntiwyd Darling fel Canghellor y Trysorlys ym Mehefin 2007. Ers hyn mae Darling wedi gorfod rhedeg y Trysorlys yn ystod un o'r cyfnodau gwaethaf yn hanes economi'r byd. Bu'n rhaid i Darling wladoli banc Northern Rock a buddsoddi biliynau i mewn i'r Royal Bank of Scotland a Lloyds Banking Group. Hefyd mae ef wedi gorfod delio gyda cholli gwybodaeth preifat 25 miliwn o bobl a diweddglo band treth 10c gan y cyn-canghellor Gordon Brown. Er i lawer credu bydd Darling am golli ei swydd i Ed Balls ym Mehefin 2009, mae ef yn parhau fel Canghellor ar hyn o bryd.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Cernlun y Guardian
- (Saesneg) TheyWorkForYou.com - Cernlun fel AS a patrwm pleidleisio yn y Senedd
- (Saesneg) Cernlun y Times
- (Saesneg) Cernlun y BBC
- (Saesneg) The Daily Telegraph[dolen marw]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Alex Fletcher |
Aelod Seneddol dros Ganol Caeredin 1987 – 2005 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Dde-Orllewin Caeredin 2005 – 2015 |
Olynydd: * |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Helen Liddell |
Ysgrifennydd Gwladol yr Alban 13 Mehefin 2003 – 5 Mai 2006 |
Olynydd: Douglas Alexander |
Rhagflaenydd: Gordon Brown |
Canghellor y Trysorlys 27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 |
Olynydd: George Osborne |