The Daily Telegraph

Oddi ar Wicipedia
The Daily Telegraph
Enghraifft o'r canlynoldaily newspaper Edit this on Wikidata
IdiolegCeidwadaeth Edit this on Wikidata
GolygyddChris Evans Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1855 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1855 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlundain, Gwlad Tai Edit this on Wikidata
PerchennogTelegraph Media Group Edit this on Wikidata
SylfaenyddArthur B. Sleigh Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolThe Signals Network Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadTelegraph Media Group Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://telegraph.co.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
The Daily Telegraph

Mae The Daily Telegraph (a enwyd yn flaenorol yn "The Telegraph") yn bapur newydd argrafflen yn y DU, a gafodd ei sefydlu ym 1855. Ac eithro'r Financial Times a The Herald (Glasgow), dyma'r unig bapur newydd dyddiol cenedlaethol i gael ei argraffu ar argraffbrint traddodiadol ar fformat argrafflen yn y Deyrnas Unedig, am fod y mwyafrif o argrafflenni eraill wedi newid i'r fformat llai ac yn debycach o ran maint i dabloid. Sefydlwyd ei chwaer bapur, The Sunday Telegraph ym 1961.

Ym mis Ionawr 2009, y Telegraph oedd y papur "maint mawr" gyda'r gwerthiant uchaf yng ngwledydd Prydain, gyda darllediad dyddiol cyfartalog o 842,912. Mae hyn yn cymharu gyda 617,483 ar gyfer papur newydd The Times, 358,844 ar gyfer The Guardian a 215,504 gyda The Independent.[1] Yn ôl arolwg MORI a gynhaliwd yn 2005, roedd 64% o ddarllenwyr y Telegraph yn bwriadu cefnogi'r Blaid Geidwadol yn yr etholiadau arfaethedig.[2]

Golygyddion[golygu | golygu cod]

1855: Thornton Leigh Hunt
1873: Edwin Arnold
1888: John le Sage
1923: Fred Miller
1924: Arthur Watson
1950: Colin Coote
1964: Maurice Green
1974: Bill Deedes
1986: Max Hastings
1995: Charles Moore
2003: Martin Newland
2005: John Bryant
2007: Will Lewis
2009: Tony Gallagher
2013: Jason Seiken
2014: Chris Evans

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [Audit Bureau of Circulations Ltd Nid yw'r ffigurau hyn yn cymryd papurau a roddir yn rhad am ddim mewn gwestai, gorsafoedd rheilffordd ac awyrennau i mewn i ystyriaeth.
  2. Voting Intention by Newspaper Readership Quarter 1 2005 Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback. Arolwg MORI poll o 11,786 o oedolion Prydeinig, Ionawr - Mawrth 2005. Adalwyd ar 12-05-2009