Prif Weinidog y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Liz Truss official portrait.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolswydd gyhoeddus Edit this on Wikidata
Mathprif weinidog, Great Officer of State Edit this on Wikidata
Label brodorolPrime minister of the united kingdom edit this on wikidata
Rhan oCabinet y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Ebrill 1721 Edit this on Wikidata
Deiliad presennolLiz Truss Edit this on Wikidata
Deiliaid a'u cyfnodau 
  • Liz Truss (6 Medi 2022),
  •  
  • Boris Johnson (24 Gorffennaf 2019 – 5 Medi 2022),
  •  
  • Theresa May (13 Gorffennaf 2016 – 24 Gorffennaf 2019),
  •  
  • David Cameron (11 Mai 2010 – 13 Gorffennaf 2016),
  •  
  • Gordon Brown (27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010),
  •  
  • Tony Blair (2 Mai 1997 – 27 Mehefin 2007),
  •  
  • John Major (28 Tachwedd 1990 – 2 Mai 1997),
  •  
  • Margaret Thatcher (4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990),
  •  
  • James Callaghan (5 Ebrill 1976 – 4 Mai 1979),
  •  
  • Harold Wilson (4 Mawrth 1974 – 5 Ebrill 1976),
  •  
  • Edward Heath (19 Mehefin 1970 – 4 Mawrth 1974),
  •  
  • Harold Wilson (16 Hydref 1964 – 19 Mehefin 1970),
  •  
  • Alec Douglas-Home (19 Hydref 1963 – 16 Hydref 1964),
  •  
  • Harold Macmillan (10 Ionawr 1957 – 18 Hydref 1963),
  •  
  • Anthony Eden (6 Ebrill 1955 – 9 Ionawr 1957),
  •  
  • Winston Churchill (26 Hydref 1951 – 5 Ebrill 1955),
  •  
  • Clement Attlee (26 Gorffennaf 1945 – 26 Hydref 1951),
  •  
  • Winston Churchill (10 Mai 1940 – 26 Gorffennaf 1945),
  •  
  • Neville Chamberlain (28 Mai 1937 – 10 Mai 1940),
  •  
  • Stanley Baldwin (7 Mehefin 1935 – 28 Mai 1937),
  •  
  • James Ramsay MacDonald (5 Mehefin 1929 – 7 Mehefin 1935),
  •  
  • Stanley Baldwin (4 Tachwedd 1924 – 4 Mehefin 1929),
  •  
  • James Ramsay MacDonald (22 Ionawr 1924 – 4 Tachwedd 1924),
  •  
  • Stanley Baldwin (22 Mai 1923 – 22 Ionawr 1924),
  •  
  • Andrew Bonar Law (23 Hydref 1922 – 20 Mai 1923),
  •  
  • David Lloyd George (6 Rhagfyr 1916 – 19 Hydref 1922),
  •  
  • Herbert Henry Asquith (8 Ebrill 1908 – 5 Rhagfyr 1916),
  •  
  • Arthur Balfour (12 Gorffennaf 1902 – 4 Rhagfyr 1905),
  •  
  • Robert Gascoyne-Cecil, 3ydd Ardalydd Caersallog (25 Mehefin 1895 – 11 Gorffennaf 1902),
  •  
  • William Ewart Gladstone (15 Awst 1892 – 2 Mawrth 1894),
  •  
  • Robert Gascoyne-Cecil, 3ydd Ardalydd Caersallog (11 Awst 1892 – 11 Awst 1892),
  •  
  • William Ewart Gladstone (1 Chwefror 1886 – 20 Gorffennaf 1886),
  •  
  • Robert Gascoyne-Cecil, 3ydd Ardalydd Caersallog (23 Mehefin 1885 – 28 Ionawr 1886),
  •  
  • William Ewart Gladstone (23 Ebrill 1880 – 9 Mehefin 1885),
  •  
  • Benjamin Disraeli (20 Chwefror 1874 – 21 Ebrill 1880),
  •  
  • William Ewart Gladstone (3 Rhagfyr 1868 – 17 Chwefror 1874),
  •  
  • Benjamin Disraeli (27 Chwefror 1868 – 1 Rhagfyr 1868),
  •  
  • Edward Smith-Stanley, 14eg Iarll Derby (28 Mehefin 1866 – 25 Chwefror 1868),
  •  
  • John Russell, Iarll Russell 1af (29 Hydref 1865 – 26 Mehefin 1866),
  •  
  • Henry Temple, 3ydd Is-iarll Palmerston (12 Mehefin 1859 – 8 Hydref 1865),
  •  
  • Edward Smith-Stanley, 14eg Iarll Derby (20 Chwefror 1858 – 11 Mehefin 1859),
  •  
  • Henry Temple, 3ydd Is-iarll Palmerston (6 Chwefror 1855 – 9 Chwefror 1858),
  •  
  • George Hamilton-Gordon, 4ydd Iarll Aberdeen (19 Rhagfyr 1852 – 30 Ionawr 1855),
  •  
  • Edward Smith-Stanley, 14eg Iarll Derby (23 Chwefror 1852 – 17 Rhagfyr 1852),
  •  
  • John Russell, Iarll Russell 1af (30 Mehefin 1846 – 21 Chwefror 1852),
  •  
  • Robert Peel (30 Awst 1841 – 29 Mehefin 1846),
  •  
  • William Lamb, Ail is-iarll Melbourne (18 Ebrill 1835 – 30 Awst 1841),
  •  
  • Robert Peel (10 Rhagfyr 1834 – 8 Ebrill 1835),
  •  
  • Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington (17 Tachwedd 1834 – 9 Rhagfyr 1834),
  •  
  • William Lamb, Ail is-iarll Melbourne (16 Gorffennaf 1834 – 14 Tachwedd 1834),
  •  
  • Charles Grey, 2ail Iarll Grey (22 Tachwedd 1830 – 9 Gorffennaf 1834),
  •  
  • Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington (22 Ionawr 1828 – 16 Tachwedd 1830),
  •  
  • Frederick John Robinson, Is-iarll Goderich 1af (31 Awst 1827 – 8 Ionawr 1828),
  •  
  • George Canning (12 Ebrill 1827 – 8 Awst 1827),
  •  
  • Spencer Perceval (4 Hydref 1809 – 11 Mai 1812),
  •  
  • William Pitt (10 Mai 1804 – 23 Ionawr 1806),
  •  
  • William Pitt (19 Rhagfyr 1783 – 14 Mawrth 1801),
  •  
  • William Petty, 2ail Iarll Shelburne (4 Gorffennaf 1782 – 26 Mawrth 1783),
  •  
  • William Pitt, Iarll Chatham 1af (30 Gorffennaf 1766 – 14 Hydref 1768),
  •  
  • George Grenville (16 Ebrill 1763 – 10 Gorffennaf 1765),
  •  
  • John Stuart, 3ydd Ardalydd Bute (26 Mai 1762 – 8 Ebrill 1763),
  •  
  • Robert Walpole (3 Ebrill 1721 (Julian) – 11 Chwefror 1742 (Julian))
  • Enw brodorolPrime Minister of the United Kingdom Edit this on Wikidata
    Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
    Gwefanhttps://www.gov.uk/government/organisations/prime-ministers-office-10-downing-street Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    David Lloyd George, Prif Weinidog rhwng 7 Rhagfyr 1916 – 22 Hydref 1922

    Pennaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Mae'n bennaeth Llywodraeth Ei Fawrhydi a Chabinet y Deyrnas Unedig. Y Prif Weinidog cyfredol yw Liz Truss, a apwyntiwyd gan Frenin y DU. Cartref swyddogol y Prif weinidog yw 10 Stryd Downing, Llundain a'r cartref gwledig yw Chequers. Gyda Gweinidogion y Cabinet mae'n atebol i'r Llywodraeth, i Goron Lloegr, i'w blaid ei hun ac yn y pendraw i'w bobl.

    Nid yw'r swydd hon wedi'i diffinio o fewn unrhyw gyfansoddiad na deddfwriaeth eithr drwy draddodiad yn unig, sy'n mynnu fod yn rhaid i'r frenhiniaeth benodi'r person mwyaf tebygol o hawlio ffydd aelodau'r Tŷ'r Cyffredin yn Brif Weinidog. Drwy draddodiad, mae'n penodi arweinydd y blaid a enillodd y fwyaf o seddi yn siambr San Steffan.

    Ni chrewyd y swydd, felly; cafodd ei ffurfio'n araf dros dri chan mlynedd a hynny mewn modd penchwiban. Mae gwreiddiau'r swydd i'w canfod mewn newidiadau cyffrous yn y cyfansoddiad rhwng 1688 a 1720 a'r modd y symudodd y pwer o ddwylo'r frenhiniaeth i ddwylo'r Llywodraeth. Gwnaed hyn, yng ngwledydd Prydain, nid drwy chwyldro a chwalu'r frenhiniaeth eithr drwy iddi hi neu ef lywodraethu drwy'r Prif Weinidog. Mae'r frenhiniaeth, felly, wedi parhau'n bennaeth ar y Llywodraeth, ond mewn enw a seremoni'n unig.

    Erbyn y 1830au, roedd y system llywodraethol yn San Steffan wedi deor o'i blisg; roedd y Prif weinidog yn primus inter pares, neu'n gydradd, o fewn y Cabinet ac yn bennaeth ar y Llywodraeth. Esblygodd y swydd law yn llaw ag esblygiad y pleidiau gwleidyddol a datblygiad y cyfryngau torfol megis teledu, radio, papurau, ffotograffiaeth a'r rhyngrwyd.

    Pleidlais bwysig: Tŷ'r Arglwyddi yn dros Ddeddf 1911. S. Begg

    Cyn 1902 deuai'r Prif Weinidog weithiau o Dŷ'r Arglwyddi ond wrth i bwer yr Arglwyddi wanychu yn ystod y 19g cryfhaodd y traddodiad iddo eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Cadarnhawyd hyn gan Ddedf 1911 a roddodd fwy o rym i Dŷ'r Arglwyddi ar dael Tŷ'r Arglwyddi.[1] Oherwydd yr holl bwer unbeniaethol hwn ofna rhai fod trefn "Arlywyddol" Unol daleithiau'r America wedi ei gyrraedd.

    Gan nad yw'r swydd wedi'i chreu'n swyddogol, ni ellir datgan unwaith-ac-am-byth pwy oedd yn y swydd yn gyntaf. Eithr, yn answyddogol, gellir nodi Robert Walpole a ddaeth i swydd "Yr Arglwydd Cyntaf i'r Trysorlys" ym 1721.

    Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

    1. legistlation.gov.uk; adalwyd 6 Hydref 2013

    Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]