Cabinet y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Cabinet y Deyrnas Unedig
Enghraifft o'r canlynolgovernment committee Edit this on Wikidata
Mathcabinet Edit this on Wikidata
Rhan oLlywodraeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1644 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auJoint Intelligence Committee, Joint Intelligence Committee, Committee of Imperial Defence, War Cabinet (First World War), War Cabinet (Second World War), War Cabinet (Falklands War), National Security Council Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadCyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pencadlys10 Stryd Downing Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cabinet-office.gov.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais Llywodraeth y DU

Cabinet y Deyrnas Unedig ydy'r corff sy'n gwneud penderfyniadau ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac sy'n cynnwys 22 o aelodau ynghyd â Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Gelwir yr aelodau hyn, a etholwyd o blith aelodau seneddol Tŷ'r Cyffredin ac o Dŷ'r Arglwyddi, yn Weinidogion y Goron a chânt eu dewis gan y Prif Weinidog. Fel rhan o'u gwaith, caiff y Gweinidogion y cyfrifoldeb o fod yn bennaethiaid ar Adrannau o'r Llywodraeth gyda'r teitl "Y Gweinidog dros ... (Amaeth, Amddiffyn)" ac yn y blaen. Mae aelodau'r Cabinet, ar wahân i'r Prif Weinidog, ar yr un lefel a'i gilydd.[1]

Yn draddodiadol, y Cabinet yw'r corff uchaf o ran gwneud penderfyniadau o fewn system llywodraethu San Steffan. Gwelir gwreiddiau'r system gyfansoddiadol hon yng ngwaith arloeswyr megis Walter Bagehot, a ddisgrifiodd y Cabinet fel "cyfrinach effeithiol" system wleidyddol Prydain yn ei lyfr The English Constitution. Dros y degwadau diwethaf, fodd bynnag, gwelwyd lleihau pwer y Cabinet gan drosglwyddo llawer o'i bwerau i'r Prif Weinidog.[2]

Hanesyddol[golygu | golygu cod]

David Lloyd George, y gwleidydd ar glensiodd y Cabinet i'w ffurf bresennol

Mae gwreiddau'r Cabinet yn gorwedd yng nghyfnod Senedd Lloegr, sef yn y cyfnod cyn creu Teyrnas Prydain Fawr a'r Deyrnas Unedig a'i dilynodd. Hyd at 16g penodwyd Swyddogion Gwladwriaethol gan Goron Lloegr, yn unigol, gydag eiddo, pwer a chyfrifoldebau eu hunain. Yr unig gorff ar y lefel hwn oedd Cyfrin-gyngor Lloegr. Ar ddiwedd y 16g gwelwn gyfeirio mewn dogfennau at "cabinet council", sef cyngor a roddwyd i'r brenin neu'r frenhines, yn breifat, mewn ystafell fechan (cabinet). Mae'r Oxford English Dictionary yn tadogi'r enw i Francis Bacon a'i Essays (1605) gan fyny mai ef a fathodd y term. Ond yma, mae Bacon yn ei ddefnyddio yng nghyd-destun gwledydd tramor ac yn difrio'r cysyniad fel "remedi oedd yn waeth na'r glefyd ei hun."[3]

Yng nghyfnod Senedd Prydain Fawr, sefydlodd Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban "Cabinet Council" swyddogol ym 1625, i weithredu fel ei gyngor-cyfrin (neu gyngor preifat) a defnyddir y gair "y Cabinet" am y tro cyntaf ym 1644 - unwaith eto, mewn modd dilornus, estronol.[4]

Ers dyddiau Siôr I y Cabinet yw prif grwp llywodraethol Llywodraeth Prydain (Llywodraeth Prydain Fawr yn y cyfnod hwnnw). Credir iddo ef a'i fab fabwysiadu'r dull tramor hwn o weithredu'n bennaf gan mai ail-iaith oedd y Saesneg iddynt ac y gwyddant fwy am drefn gwleidyddiaeth gwledydd eraill nag am un Lloegr.

I'r Prif Weinidog a'r Cymro David Lloyd George mae'r diolch am roi trefn ar y Cabinet, fodd bynnag, a'i system weithredol. Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog y DU (1916–1922) gwelwyd sefydlu "Cabinet Office" ac Ysgrifennydd, strwythur ffurfiol i'r pwyllgorau, cofnodion nad oeddent yn cael eu cyhoeddi a pherthynas clir a phendant rhwng Gweinidogion y gwahanol Adrannau. Y drefn hon a ddefnyddir heddiw.

Rhestr o aelodau'r cabinet presennol[golygu | golygu cod]

Penodwyd Cabinet Johnson, yn wreiddiol, yng Ngorfennaf 2019.

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ministers of the Crown Act 1975 s 3
  2. Foley, Michael, 2000 - The British Presidency tud. 13–14 drwy Google Books
  3. Bacon, Essay "On Counsel" "For which inconveniences, the doctrine of Italy, and practice of France, in some kings’ times, hath introduced cabinet counsels; a remedy worse than the disease."
  4. OED Cabinet