Kirkcaldy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kirkcaldy
Kirkcaldy.jpg
Math tref, large burgh Edit this on Wikidata
The Lang Toun.ogg, Kirkcaldy2.ogg, Kirkcaldy.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 48,108 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Ingolstadt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Fife, Kirkcaldy and Dysart, Fife, Kirkcaldy (district) Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 18 ±1 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 56.1107°N 3.1674°W Edit this on Wikidata
Cod OS NT275915 Edit this on Wikidata
Cod post KY1, KY2 Edit this on Wikidata

Tref a chyn-burgh brenhinol yn Fife, yr Alban, ydy Kirkcaldy[1] (Gaeleg: Cair Chaladain).[2] Fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniol yr Alban, tua 18.6 milltir i'r gogledd o Gaeredin, a 44.4 milltir i'r de-orllewin Dundee. Mae Caerdydd 515 km i ffwrdd o Kirkcaldy ac mae Llundain yn 549.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 18 km i ffwrdd.

Amcangyfrwyd poblogaeth o tua 48,630 in 2008, felly hon yw'r anheddiad mwyaf yn Fife. Mae Kirkcaldy wedi cael y llysenw "Lang Toun", o'r Sgoteg am dref hir, ers amser maith, gan gyfeirio at brif stryd cynnar y dref a oedd 0.9 milltir o hyd, fel ddynodwyd ar fapiau'r 16eg a'r 17fe ganrif. Yn ddiweddarach, tyfodd yn 4 milltir o hyd wrth i'r anheddiadau gerllaw, sef Linktown, Pathhead, Sinclairtown a Gallatown, gael eu cysylltu.

Mae'r cofnod cyntaf o'r dref yn dyddio o 1075, pan roddodd Malcolm III sir Kirkcaladunt i eglwys Dunfermline (Abaty Dunfermline yn ddiweddarach). Odan Robert I, ym 1327 newidiodd statws Kirkcaldy o fod yn drefedigaeth i fod yn burgh a oedd yn ddibynadwy ar Abaty Dunfermline. Ym 1451, cafodd statws feu-ferme a roddodd iddo annibyniaeth rhannol oddi wrth yr abaty; derbyniodd annibyniaeth llawn drwy siarter brenhinol gan Siarl I ym 1644.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 3 Hydref 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 3 Hydref 2019
Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato