Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Siarl I, brenin Lloegr)
Jump to navigation Jump to search
Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban
King Charles I after original by van Dyck.jpg
Ganwyd 19 Tachwedd 1600 Edit this on Wikidata
Palas Dunfermline Edit this on Wikidata
Bu farw 30 Ionawr 1649 Edit this on Wikidata (48 oed)
Achos: pendoriad Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Tad Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban Edit this on Wikidata
Mam Ann o Ddenmarc Edit this on Wikidata
Priod Henrietta Maria Edit this on Wikidata
Plant Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban, Mary, Princess Royal and Princess of Orange, Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban, Elizabeth Stuart, Princess Anne of England, Henry Stuart, Duke of Gloucester, Princess Henrietta of England Edit this on Wikidata
Teulu Mary Stuart, Elizabeth Stuart, brenines Bohemia, Margaret Stuart, Sophia o Loegr, Robert Stuart, Harri Stuart Edit this on Wikidata
Llinach House of Stuart Edit this on Wikidata

Charles Stuart, Brenin Siarl I (19 Tachwedd 1600 - 30 Ionawr 1649) oedd Tywysog Cymru o 1616 hyd 1625, ac wedyn brenin Lloegr, yr Alban ac Iwerddon o 27 Mawrth 1625 tan ei ddienyddiad yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod o frwydro am rym rhwng y brenin a'r senedd. Yn bleidiwr brwd dros hawl ddwyfol brenhinoedd, gweithredai Siarl i gryfháu ei rymoedd ei hun, gan reoli heb y Senedd am gyfnod helaeth o'i deyrnasiad.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ail fab i'r Brenin Iago VI o'r Alban a'i wraig Anne o Ddenmarc, cafodd Siarl ei eni ym Mhalas Dunfermline yn yr Alban ar 19 Tachwedd 1600. Ar farwolaeth Elizabeth I o Loegr yn mis Mawrth 1603, dyrchafwyd ei dad i orsedd Lloegr. Roedd Siarl yn blentyn eiddil, ac, ar y dechrau, fe'i gadawyd yn yr Alban yng ngofal nyrsys rhag ofn i'w iechyd waethygu ar y daith hir i Lundain.

Teyrnasiad cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Esgynodd Siarl i orsedd Lloegr a'r Alban ar farwolaeth ei dad ar 27 Mawrth 1625. Ar 13 Mehefin o'r un flwyddyn, priododd Henrietta Maria, yn absenoldeb y ddau gymar. Roedd ei senedd gyntaf, oedd wedi agor ym mis Mai, yn erbyn y briodas o'r cyntaf am mai pabyddes oedd hi, ac ofnid y byddai Siarl yn lleddfu mesurau yn erbyn pabyddion a thanseilio Protestaniaeth fel crefyddol swyddogol y deyrnas.

Brwydrau â'r Senedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Siarl yn brwydo â'r Senedd yn ystod rhan helaeth o'i deyrnasiad.

Achos llys a'i ddienyddio[golygu | golygu cod y dudalen]

Print Almaenig o'r 17eg ganrif yn dangos dienyddiad Siarl I

Cyhuddiwyd Siarl o uchel frad ac uchel droseddau eraill ar 2 Ionawr 1649. Gwrthododd Siarl bledio gan fynnu nad oedd gan lys mo'r hawl i ddwyn achos yn erbyn brenin. Fe'i cafwyd yn euog, a llofnodwyd warant marwolaeth gan 59 o'r comisiynwyr, gan gynnwys John Jones, Maesygarnedd ar 29 Ionawr 1649. Fe'i dienyddiwyd y diwrnod wedyn ar lain o dir o flaen y Banqueting House yn Llundain.

Plant[golygu | golygu cod y dudalen]

Arfau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagflaenydd:
Iago VI/I
Brenin yr Alban
27 Mawrth 162530 Ionawr 1649
Olynydd:
Siarl II (gan 1660)
Rhagflaenydd:
Iago VI/I
Brenin Loegr
27 Mawrth 162530 Ionawr 1649
Olynydd:
Siarl II (gan 1660)
Rhagflaenydd:
Harri Stuart
Tywysog Cymru
16161625
Olynydd:
Siôr