Sgoteg

Oddi ar Wicipedia

Iaith Germanaidd a siaredir yn ne'r Alban yw'r Sgoteg neu Lallans. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.

Ceir enghraifft gyfoes o'r iaith Sgoteg yn y gân brotest o'r 1960au gan Hamish Henderson, Freedom Come-All-Ye. Wrth ddarllen geiriau'r gân gellir gweld y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng Saesneg.

Un gwahaniaeth rhwng Saesneg a Sgoteg yw i'r iaith Sgoteg beidio cael ei heffeithio gan y 'Great Vowel Shift' a ddigwyddodd i'r Saesneg rhwng tua 1350 a 1600 yn yr un ffordd. Un enghraifft o'r newid llefariaid yma oedd bod llefariaid oedd yn cael eu sillafur ou (w yn Gymraeg) newid i au (aw yn Gymraeg); gwelir y gwahaniaeth gydag ynganiad gyfoes "brown cow" yn Saesneg tra i'r Sgoteg gadw ac arddel hyd heddiw "broon coo".[1]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Scots Language (or Dialect?!)". Sianel Langfocus ar Youtubube. 21 Mehefin 2017.