Robert I, brenin yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Robert I, brenin yr Alban
Ganwyd11 Gorffennaf 1274, 1274 Edit this on Wikidata
Turnberry Castle Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 1329, 1329 Edit this on Wikidata
Cardross Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwron, teyrn Edit this on Wikidata
Swyddteyrn yr Alban, Earl of Carrick Edit this on Wikidata
TadRobert de Brus, 6th Lord of Annandale Edit this on Wikidata
MamMarjorie, Countess of Carrick Edit this on Wikidata
PriodIsabella of Mar, Elizabeth de Burgh Edit this on Wikidata
PlantMarjorie Bruce, Dafydd II, Margaret Bruce, Robert Bruce, Lord of Liddesdale, Maud Bruce, John Bruce, Walter Bruce, Margaret Bruce, Catherine Bruce, Elizabeth Bruce, Christina Bruce, Neil Bruce, Isabel de Bruce Edit this on Wikidata
LlinachClan Bruce Edit this on Wikidata

Robert I, brenin yr Alban (Robert de Brus neu Robert de Bruys, Gaeleg: Raibeart Bruis) (11 Gorffennaf 1274 - 7 Mehefin, 1329), oedd brenin Yr Alban rhwng 1306 a 1329).

Roedd ei deulu ar ochr ei dad Robert de Brus, 6ed Arglwydd Annandale, o darddiad Normanaidd, ond ar ochr ei fam, Marjorie, merch Niall, Iarll of Carrick roedd o darddiad Aeleg.

Cerflun o 'Robert the Bruce' ym Mrwydr Bannockburn

Roedd ganddo hawl i orsedd yr Alban fel gor-gor-gor-gor ŵyr Dafydd I, brenin yr Alban. Roedd ei daid, hefyd yn Robert de Brus, wedi cystadlu i ddod yn frenin yn 1292, ond roedd y goron wedi ei rhoi i John Balliol, er mawr ddicter i deulu Brus. Ochrodd Robert a'i dad gyda Edward I, brenin Lloegr yn erbyn Balliol.

Priododd Robert fel ei wraig gyntaf, Isabella o Mar, merch Donald, 10fed Iarll Mar gan ei wraig Helen (g. 1246). Dywed rhai ffynonellau fod Helen yn ferch Llywelyn Fawr, ond gan fod Llywelyn wedi marw yn 1240 ymddengys hyn yn amhosibl. Awgrymwyd ei bod yn ferch Dafydd ap Llywelyn. Ganed merch, Marjorie Bruce, i Robert ac Isabella; yn ddiweddarach priododd Walter Stewart a dechrau llinach y Stiwartiaid.

Ymunodd Robert ag o leiaf un gwrthryfel Albanaidd yn erbyn Edward I, ond ar adegau eraill cefnogai Edward. Daeth Robert a John Comyn yn warcheidwaid yr Alban, ond gan fod cymaint o elyniaeth rhyngddynt apwyntiwyd William Lamberton, Esgob St Andrews, fel trydydd gwarcheidwad yn 1299. Y flwyddyn wedyn ymddiswyddodd Robert fel gwarcheidwad.

Robert I ac Elizabeth de Burgh

Yn 1302 priododd Robert ei ail wraig, Elizabeth de Burgh, merch Richard de Burgh, 2il Iarll Wlster. Cafodd bedwar plentyn gan Elizabeth, Dafydd II, brenin yr Alban, John, Matilda a Margaret. Ymosododd Edward I ar yr Alban eto yn 1303, a gorfodwyd John Comyn i ildio. Dim ond William Wallace oedd yn dal heb ildio i Edward, ond yn 1305 daliwyd ef gerllaw Glasgow a'i ddienyddio yn Llundain ar 23 Awst.

Ar 10 Chwefror, 1306, trefnwyd cyfarfod rhwng Robert a Comyn yn Dumfries. Aeth yn gweryl, a lladdwyd Comyn ger allor yr eglwys. Gan sylweddoli fod yn rhaid iddo hawlio'r goron neu ffoi, cyhoeddodd Robert ei hun yn frenin yr Alban, oedd yn llwyr yn nwylo Edward I ar y pryd. Ym mis Mehefin 1306 gorchfygwyd Robert ym mrwydr Methven ac yna bu bron iddo gael ei ddal yn Strathfillan. Yn 1307 daliodd Edward wraig Robert, Elizabeth, a'i ferch, Marjorie. Daliwyd ei frawd, Niall, hefyd a'i ddienyddio. Bu farw Edward I ar 7 Gorffennaf, a dilynwyd ef gan ei fab, Edward II, oedd yn llawer llai galluog fel milwr.

Bu Robert a'i ddilynwyr yn ymladd rhyfel taro a rhedeg am rai blynyddoedd. Daliwyd ei frodyr Thomas ac Alexander, a'u dienyddio. Ar un adeg, dywedir iddo orfod ymgilio i Ynys Rathlin, oddi ar arfordir gogleddol Iwerddon. Yn ôl y chwedl, roedd yn llochesu mewn ogof yno, bron ag anobeithio, pan ysbrydolwyd ef i barhau'r frwydr trwy weld pryf copyn yn ceisio gosod ei we ar ochr y graig; methodd dro ar ôl tro, ond dyfalbarhaodd, ac yn y diwedd llwyddodd. Cymerodd Robert hyn fel arwydd iddo ef, a phenderfynodd barhau i ymladd. Yn raddol enillodd dir, gan orchfygu y Saeson yn Glen Trool, gorchfygu Aymer de Valence, 2il Iarll Penfro ym mrwydr Loudoun Hill, ac yna gorchfygu John Comyn, 3ydd Iarll Buchan ym mrwydr Inverurie ym mis Mai 1308. Yn 1314 enillodd fuddugoliaeth ysgubol dros Edward II ym Mrwydr Bannockburn.

Parhaodd yr ymladd am flynyddoedd eto, gyda Edward, brawd Robert, yn ymgyrchu yn Iwerddon. Ym Mai 1328 arwyddodd Edward III, brenin Lloegr Gytuneb Caeredin-Northampton, oedd yn cydnabod yr Alban fel gwlad annibynnol a Robert fel ei brenin.

Bu farw yn 1329 yn Cardross, Dumbarton, a chladdwyd ef yn Abaty Dunfermline. Cyn ei gladdu, yn ôl ei ddymuniad, tynnwyd ei galon o'i gorff ac aeth ei gyfaill Syr James Douglas a hi ar groesgad i Sbaen i ymladd yn erbyn y Mwslimiaid. Mae'r galon yn awr wedi ei chladdu yn Abaty Melrose.[1]

Rhagflaenydd:
John Balliol
Brenhines yr Alban
1306 – 22 Chwefror 1329
Olynydd:
Dafydd II

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert Kerr, History of Scotland during the Reign of Robert I surnamed the Bruce, cyf. 2 (1811)