Jacqui Smith
| Jacqui Smith | |
|---|---|
| Ganwyd | Jacqueline Jill Smith 3 Tachwedd 1962 Malvern |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, athro |
| Swydd | Ysgrifennydd Cartref, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Gwobr/au | Gwobr 100 Merch y BBC |
| Gwefan | http://www.jacquismithmp.labour.co.uk/ |
Gwleidydd o Loegr gyda'r [[Y Blaid Lafur|Blaid Lafur] yw Jacqueline Jill "Jacqui" Smith (ganed 3 Tachwedd 1962). Hi oedd yr Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig o 2007 i 2009. Hi oedd Aelod Seneddol i Redditch o 1997 hyd 2010. Fe'i gwnaed yn Aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 2003.
Smith oedd yr Ysgrifennydd Cartref benywaidd cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Fel Ysgrifennydd Cartref y DU, bu'n gefnogwraig brwd o bolisïau awdurdodaidd. Enghreifftiau o hyn yw'r ddeddf sy'n caniatau carcharu'r rhai a ddrwgdybir o drosedd am nifer o fisoedd heb ddod ag achos yn eu herbyn, cronfa-ddata ganolog sy'n cofnodi pob galwad ffôn symudol ac ebost a defnydd o'r rhyngrwyd, a chyfyngiadau am ryddid ffotograffiaeth. Cafodd y ffug-enw "Jackboot Jacqui" gan bapurau tabloid y DU oherwydd ei pholisïau.[1] Cyfiawnha Smith ei pholisïau gan ddweud eu bod yn ddeddfau "gwrth-derfysgaeth".
Roedd Smith yn gystadleuydd yn 18fed cyfres rhaglen deledu’r BBC, Strictly Come Dancing, yn 2020.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jackboot Jacqui's a Nazi piece of work, Daily Mail Adalwyd 03-03-2009
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Redditch 1997 – 2010 |
Olynydd: Karen Lumley |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: John Reid |
Ysgrifennydd Cartref 28 Mehefin 2007 – 5 Mehefin 2009 |
Olynydd: Alan Johnson |