Ben Bradshaw

Oddi ar Wicipedia
Ben Bradshaw
Ben Bradshaw


Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Cyfnod yn y swydd
5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010
Prif Weinidog Gordon Brown
Rhagflaenydd Andrew Burnham
Olynydd Jeremy Hunt

Geni 30 Awst 1960
San Steffan, Llundain
Etholaeth Caerwysg
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Neal Dalgleish

Gwleidydd Seisnig ac Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Caerwysg ydy Benjamin Peter James "Ben" Bradshaw (ganed 30 Awst, 1960 yn Llundain).

Rhwng 2009 i 2010, ef yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a'r Gweinidog ar gyfer y De Orllewin. Ef oedd un o'r ASau cyntaf i fod yn agored fel gwr hoyw.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn fab i ficer yn Eglwys Gadeiriol Norwich, derbyniodd Bradshaw ei addysg yn Ysgol Uwchradd Thorpe St Andrew High School (Norwich) a Phrifysgol Sussex lle graddiodd yn Almaeneg. Mynychodd Brifysgol Freiburg, yr Almaen hefyd. Ym 1982/83 dysgodd Saesneg yn y Technikum, ysgol dechnoleg yn Winterthur (Y Swistir). Daeth yn newyddiadurwr gyda'r Exeter Express and Echo yn 1984 a chafodd ei apwyntio'n newyddiadurwr gyda'r Eastern Daily Press yn Norwich yn 1985. Ym 1986 ymunodd a'r BBC fel newyddiadurwr gyda BBC Radio Devon. Ym 1989 enillodd wobr am ei waith fel gohebydd BBC Radio ym Merlin a gweithiodd yn y ddinas pan ddymchwelwyd Mur Berlin. Parhaodd i weithio fel newyddiadurwr i raglen radio y BBC The World At One o 1991 nes iddo gael eu ethol i San Steffan. Ym 1993, enillodd Wobr Newyddiadurwr Sony.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Hannam
Aelod Seneddol dros Gaerwysg
1997 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Andrew Burnham
Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
5 Mehefin 200912 Mai 2010
Olynydd:
Jeremy Hunt


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.