Neidio i'r cynnwys

Peter Mandelson

Oddi ar Wicipedia
Peter Mandelson
Ganwyd21 Hydref 1953 Edit this on Wikidata
Maestref Parc Hampstead Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Ysgrifenyddion Gwladol, Arglwydd Lywydd y Cyngor, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Comisiynydd Masnach Ewropeaidd, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, Llywydd y Bwrdd Masnach, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, llysgennad y Dernas Unedig i'r Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadGeorge Norman Mandelson Edit this on Wikidata
MamMary Joyce Morrison Edit this on Wikidata
PriodReinaldo Avila da Silva Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Grand Officer of the Order of the Star of Italian Solidarity Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd o Loegr yw Peter Benjamin Mandelson, Arglwydd Mandelson (ganwyd 21 Hydref 1953). Roedd yn Aelod Seneddol dros Hartlepool o 1992 hyd 2004. Fel llefarydd "sbin" bu ganddo ran amlwg yn llywodraeth Tony Blair.

Daliodd Mandelson swyddi yn y Cabinet o dan Blair a Gordon Brown, cyn ymddiswyddo o'i sedd yn 2004.[1]

Ei gysylltiad gydag Epstein

[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2025, cafodd Mandelson ei ddiswyddo fel Llysgennad Prydain i'r Unol Daleithiau gan y Brif Weinidog, Keir Starmer, oherwydd ei gysylltiadau â Jeffrey Epstein.[2] Roedd yn un o lysgenhadon Prydain a wasanaethodd am y cyfnod byrraf yn yr Unol Daleithiau mewn hanes.

Yn Ionawr a Chwefror 2026, daeth datblygiadau difrifol pellach ynglŷn â pherthynas Mandelson ag Epstein i'r amlwg yn dilyn rhyddhau dogfennau gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau. Roedd y dogfennau'n cynnwys e-byst o gyfnod pan oedd Mandelson yn Ysgrifennydd Busnes y DU rhwng 2009 a 2010 a oedd yn awgrymu ei fod wedi rhannu gwybodaeth sensitif y llywodraeth â'r ariannwr euog, Jeffrey Epstein.[3] Yn ôl e-byst Mandelson at Epstein ym Mai 2010 fe ymddengys i Mandelson rybuddio Epstein ymlaen llaw am gynllun-achub (bailout) €500 biliwn i'r ewro. Dangosodd dogfennau bancio hefyd fod Epstein wedi gwneud taliadau o $75,000 i gyfrifon yn gysylltiedig â Mandelson a'i bartner (bellach ei ŵr) Reinaldo Avila da Silva rhwng 2003 a 2004.[4] Ar 3 Chwefror 2026 cyhoeddodd Heddlu Metropolitan eu bod wedi lansio ymchwiliad troseddol i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac ymddiswyddodd Mandelson o Dŷ'r Arglwyddi [5] ar yr un diwrnod. Dywedodd Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fod Mandelson wedi "bradychu ein gwlad, ein senedd, a'm plaid".

Ar 23 Chwefror 2026, cafodd Mandelson ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Kirkup, James (17 Awst 2004). "Mandelson appointed to lead EU trade". The Scotsman (yn Saesneg). UK. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2009.
  2. "Keir Starmer yn diswyddo'r Arglwydd Peter Mandelson fel llysgennad i'r UDA [sic]". Newyddion S4C. 11 Medi 2025. Cyrchwyd 11 Medi 2025.
  3. "Who is Peter Mandelson, and why have his Epstein ties shaken the British establishment?", CNN, 5 Chwefror 2026; adalwyd 5 Chwefror 2026
  4. "Peter Mandelson has 'no recollection' of receiving money disclosed in Epstein files", ITV News, 1 Chwefror 2026; adalwyd 5 Chwefror 2026
  5. "The U.K. investigates its ex-ambassador to the U.S. over alleged leaks to Epstein", NPR (National Public Radio), 3 Chwefror 2026; adalwyd 5 Chwefror 2026
  6. "Lord Mandelson arrested on suspicion of misconduct in public office". BBC (yn Saesneg). 23 Chwefror 2026. Cyrchwyd 25 Chwefror 2026.