Eastern Daily Press
Jump to navigation
Jump to search
Papur newydd rhanbarthol yw'r Eastern Daily Press, a gyfeirir ato'n aml fel yr EDP. Mae'r papur ar gyfer ardal Norfolk, rhannau gogleddol Suffolk a dwyrain Swydd Gaergrawnt. Cyhoeddir y papur yn ddyddiol yn Norwich, y Deyrnas Unedig.
Sefydlwyd y papur fel argrafflen ym 1870 o dan yr enw gwreiddiol "Eastern Counties Daily Press", cyn iddo newid ei enw i'r "Eastern Daily Press" ym 1872. Newidiodd i fformat tabloid yng nghanol y 1990au.
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- EDP24, gwefan y papur.
- Ystadegau gwerthiant o'r Audit Bureau of Circulations