Cyfrin gyngor

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cyfrin Gyngor)

Corff sy'n cynghori pen gwladwriaeth yw cyfrin gyngor. Fel rheol mae cyfrin gynghorau yn rhan o drefn llywodraethol breniniaethau, byddent yn cynghori'r teyrn ynglŷn â sut i weithredu ei awdurdod gweithredol. Ystyr y gair "cyfrin" yw "cyfrinach(ol)"; yn hanesyddol roedd y cyfrin gyngor yn bwyllgor o gynghorwyr agosaf y brenin neu'r frenhines, a oedd yn rhoi cyngor cyfrinachol ar faterion y deyrnas.

Mewn gwledydd sydd ddim yn freniniaethau, y corff sy'n cyfateb i'r cyfrin gyngor yw'r cabinet, ond mewn rhai gwledydd, mae'r cabinet yn bwyllgor o'r cyfrin gyngor ei hun.

Cyfrin gynghorau[golygu | golygu cod]

Cyfrin gynghorau sy'n dal i weithredu[golygu | golygu cod]

Cyn gyfrin gynghorau[golygu | golygu cod]