Musselburgh

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Musselburgh
RiverEskRomanBridge.jpg
Pont John Rennie dros Afon Esk ym Musselburgh
Math tref, small burgh Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Rosignano Marittimo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Dwyrain Lothian, Inveresk, Midlothian, Dwyrain Lothian Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 5.42 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 55.94326°N 3.047161°W Edit this on Wikidata
Cod SYG S19000549 Edit this on Wikidata
Cod OS NT345726 Edit this on Wikidata
Cod post EH21 Edit this on Wikidata

Tref yn Nwyrain Lothian, yr Alban, yw Musselburgh[1] (Gaeleg: Baile nam Feusgan).[2] Fe'i lleolir ar arfordir Moryd Forth, ar ffin ddwyreiniol Caeredin, tua 5 milltir (8 km) o ganol y ddinas.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 19,840.[3]

Sefydlwyd y dref yng nghyfnod y Rhufeiniaid, pan godwyd pont ar draws Afon Esk. Ailadeiladwyd y bont Rufeinig ar ei sylfeini gwreiddiol yn y 12g, ac fe’i hailadeiladwyd eto ym 1597, y tro hwn gyda thrydydd bwa wedi’i ychwanegu ar ochr ddwyreiniol yr afon. Mae hon, yr "Auld Brig", yn dal i gael ei defnyddio fel pont droed. I'r gogledd saif y Bont Newydd, a ddyluniwyd gan John Rennie ac a adeiladwyd ym 1806.

Yr "Auld Brig", Musselburgh

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 8 Hydref 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 8 Hydref 2019
  3. City Population; adalwyd 8 Hydref 2019