Bwrdeistref Fetropolitan Wigan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bwrdeisdref Fetropolitan Wigan
Wigan Civic Centre.jpg
Math bwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Manceinion Fwyaf
Prifddinas Wigan Edit this on Wikidata
Poblogaeth 322,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Manceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 188.1712 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Bwrdeistref Warrington Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.53°N 2.62°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E08000010 Edit this on Wikidata
GB-WGN Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Wigan Edit this on Wikidata

Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Wigan (Saesneg: Metropolitan Borough of Wigan).

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 188 km², gyda 328,662 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Bolton a Dinas Salford i'r dwyrain, Swydd Gaer i'r de, Glannau Merswy i'r de-orllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gorllewin ac i'r gogledd.

Bwrdeistref Fetropolitan Wigan ym Manceinion Fwyaf

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn dri phlwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Wigan lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Ashton-in-Makerfield, Atherton, Golborne, Hindley, Ince-in-Makerfield, Leigh, Standish a Tyldesley.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2020