Dinas Salford
| Math | ardal gyda statws dinas, bwrdeistref fetropolitan, ardal ddi-blwyf |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
| Prifddinas | Swinton |
| Poblogaeth | 262,697 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Paul Dennett |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 97.1974 km² |
| Uwch y môr | 68 metr |
| Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Bolton, Bwrdeistref Fetropolitan Bury, Dinas Manceinion, Bwrdeistref Fetropolitan Trafford, Bwrdeistref Fetropolitan Wigan, Bwrdeistref Warrington |
| Cyfesurynnau | 53.5097°N 2.3344°W |
| Cod SYG | E08000006, E43000160 |
| GB-SLF | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | cabinet of Salford City Council |
| Corff deddfwriaethol | council of Salford City Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Salford |
| Pennaeth y Llywodraeth | Paul Dennett |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dinas Salford (Saesneg: City of Salford).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 97.2 km², gyda 258,834 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Wigan i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Bolton a Bwrdeistref Fetropolitan Bury i'r gogledd, Dinas Manceinion i'r dwyrain, Bwrdeistref Fetropolitan Trafford i'r de-ddwyrain, a Swydd Gaer i'r de-orllewin.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Swinton. Yn ogystal â dinas Salford ei hun, mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Eccles, Pendlebury, Swinton, Walkden a Worsley.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 24 Awst 2020
